19 Mai 2009
Newyddion da eto i draethau a marinas Cymru.
Ychydig ddiwrnodau wedi’r proffwydo fod Cymru am fwynhau haf poeth hefo haul cyson dyma newyddion da eto heddiw (ddydd Mawrth, Mai 19eg) bod llawer o draethau a marinas Cymru wedi dod i’r brig oherwydd eu safon uchel.
Mae tri deg ac wyth o draethau a phum marina wedi cyrraedd safon y meini prawf llym sydd yn ofynnol er mwyn cael chwifio’r Faner Las ryngwladol. O’r wyth marina ym Mhrydain a lwyddodd i gwrdd â’r gofynion mae pump yng Nghymru.
Mae’r traethau’n cael eu beirniadu yn ôl mwy na 30 o feini prawf sydd yn cynnwys cyrraedd y safon uchaf o ran ansawdd y dŵr, rheoli sbwriel yn dda, cyflwyno gwybodaeth mewn modd hawdd ei darllen, rheolaeth gaeth ar gŵn a chadwraeth amgylcheddol gynaliadwy. Roedd y marinas yn gorfod cwrdd ag 16 o feini prawf sydd yn ymwneud â phethau ar y tir yn cynnwys adnoddau digonol i dderbyn gwastraff, cyfarpar achub bywyd ac ymrwymiad i barchu a diogelu’r amgylchedd lleol.
Mae rhaglen y Faner Las yn gweithredu ar hyn o bryd mewn mwy na 40 o wledydd drwy’r byd ac mae’n cael ei rheoli yng Nghymru ar ran y Foundation for Environmental Education o Ddenmarc.
Mae traeth Llanfairfechan ymysg y rhai sydd wedi ennill eleni am y tro cyntaf a’r stori yw bod rysáit gwreiddiol Guinness wedi tarddu o win tywyll a oedd yn cael ei wneud yn y dref honno, a bod Arthur Guinness o Iwerddon wedi ei fabwysiadu ar ôl ymweld droeon â’r dref. Mae Coppet Hall yn sir Benfro a Marina Penarth hefyd ymysg yr enwau newydd ar y rhestr.
Dyma sylwadau Tegryn Jones, y Prif Weithredwr "Yn y dyddiau anodd hyn rydym yn ffodus iawn yng Nghymru o fedru dweud wrth ddarpar ymwelwyr bod ein traethau a’n marinas wedi dod i’r brig a’u bod ymysg y 2696 o draethau a 639 o farinas drwy’r byd y gellir eu hystyried yn gyrchfannau gwyliau o’r radd flaenaf".
Yna ychwanegodd "Fe ddylai’r newydd da hwn fod o fantais fawr i ni mewn diwydiant ymwelwyr sydd yn un hynod o gystadleuol. Rydym yn ddibynnol iawn ar yr incwm a ddaw yn sgil twristiaeth ac rydym yn ffodus bod yr awdurdodau lleol a Dŵr Cymru wedi gweld yn ddigon pell i fuddsoddi mewn gwella’r cyfleusterau ar y tir ac ansawdd y dŵr ymdrochi.
Rhestr o’r Traethau a’r Marinas a Enillodd y Faner Las yn 2009:
|
Abertawe |
Bae Bracelet |
|
Caswell |
|
Langland |
|
Porth Einon |
|
Bro Morgannwg |
Bae Whitmore |
|
Castell Nedd Port Talbot |
Aberafan |
|
Ceredigion |
Aberporth |
|
Borth |
|
Llangrannog |
|
Harbwr Cei Newydd |
|
Tresaith |
|
Conwy |
Llanfairfechan |
|
Penmaenmawr |
|
Traeth y Gogledd |
|
Gwynedd |
Tywyn |
|
Abersoch |
|
Dinas Dinlle |
|
Ffriog |
|
Pwllheli |
|
Pen-y-bont ar Ogwr |
Porthcawl, Bae’r Rest |
|
Bae Trecco |
|
Sir Benfro |
Coppet Hall |
|
Dale |
|
Lydstep |
|
Niwgwl |
|
Traeth Poppit |
|
Saundersfoot |
|
Dinbych y Pysgod – Traeth y Castell |
|
Dinbych y Pysgod - Traeth y Gogledd |
|
|
Dinbych y Pysgod - Traeth y De |
|
Tŷ Ddewi – Porth Mawr |
|
Sir Ddinbych |
Traeth Canol Prestatyn |
|
Ynys Môn |
Benllech |
|
Porth Swtan |
|
Porth Dafarch |
|
Llanddona |
|
Llanddwyn-Niwbwrch |
|
Bae Trearddur |
|
Marinas |
Caergybi |
|
Caernarfon |
|
Abertawe |
|
Penarth |
|
Hafan Pwllheli |
NODIADAU I OLYGYDDION:
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Wynne Williams, Rheolwr Cyfathrebu, Cadwch Gymru’n Daclus. Ffôn 01286 674081/02920726993 neu symudol 07768422360.
Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn Elusen Amgylcheddol Gofrestredig sydd yn gweithio tuag at wella amgylcheddau lleol Cymru. Cewch ragor o wybodaeth am Cadwch Gymru’n Daclus ar ein gwefan:
www.cadwchgymrundaclus.org