Keep Wales Tidy / Cadwch Gymru'n Daclus

Gwobr Cymru Daclus 2009 – Y Rhestr Fer

Gwobr Cymru Daclus 2009 – Y Rhestr Fer

13 Hyd 2009

Croeso i arwyr gwyrdd yn Llandudno

Eleni cafwyd mwy nag erioed o ymgeiswyr am wobr amgylcheddol bwysicaf Cymru ac yn eu mysg mae un o brif gwmnïau gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth Prydain a thrigolion Cilffrew yng Nghastell-nedd Port Talbot a ymosododd ar y dasg enfawr o glirio sbwriel a bagiau plastig o’u cymuned.

Lansiwyd Gwobr Cymru Daclus ym 1990 i gydnabod a gwobrwyo ysgolion, grwpiau a busnesau a wnaeth ymdrech eithriadol i gael eu cymunedau’n lanach, diogelach a thaclusach.

Mae’r gwobrau’n cael eu noddi gan Asiantaeth Amgylchedd Cymru a’u cydlynu gan Cadwch Gymru’n Daclus. Bydd enillwyr y naw categori’n derbyn gwobr ariannol o £250 yr un. Yna asesir ymhellach yr enillwyr ym mhob categori a bydd yr un a ddaw i’r brig yn derbyn Tlws Cymru Daclus, a gomisiynwyd yn arbennig, ynghyd â siec am £500.

Eleni bydd pob ymgeisydd a ddaw i’r rhestr fer yn y categorïau ‘ysgol’ a ‘grŵp cymunedol’ yn derbyn taleb am £50 gan y Cwmni Help Llaw i’w ddefnyddio i brynu offer casglu sbwriel.

Mewn seremoni ar 5 Tachwedd yng Ngwesty St George yn Llandudno, ceir crynodeb gan Siân Thomas, y cyflwynydd radio a theledu, o’r hyn a gyflawnodd y grwpiau ac yna bydd Dafydd Elis-Thomas AC yn cyflwyno’r gwobrau.

Ymysg yr ymgeiswyr a gyrhaeddodd y rhestr fer mae Gwasanaethau Dŵr Kelda a ganiataodd i’w staff gael amser i wneud mwy na 500 o oriau o waith i wella’r gymuned, a Chymdeithas Trigolion Cilffrew yng Nghastell-nedd Port Talbot sydd wedi bod yn annog siopau yn y pentref i roi bagiau defnydd, a wneir gan siop grefftau lleol, yn lle rhai plastig i’w cwsmeriaid.

Ymysg y rhai eraill sydd ar y rhestr fer mae Partneriaeth Plas Cybi o Gaergybi a fu’n annog y gymuned leol i glirio mwy na 50 tunnell o wastraff cyffredinol o’u cymdogaeth, a’r Ely Garden Villagers o Gaerdydd a gliriodd dir wast a’i wneud yn amwynder lleol gwerthfawr.

Dywedodd Tegryn Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus:

"Rydym yn rhyfeddu bob blwyddyn at ymdrech rhai pobl i wella eu hamgylchedd. Pe baem i gyd yn gwneud ymdrech fach byddai modd i’r wlad fod yn un y gallem fod yn falch o gael byw a gweithio ynddi."

Ychwanegodd: "Mae gennym ddigon o arbenigedd i weddnewid Cymru. Y cwbl sydd ei angen yw mwy o bobl sydd yn fodlon baeddu eu dwylo o dro i dro. Wrth gwrdd â’r gwirfoddolwyr rwy’n sylwi ar yr hapusrwydd sydd ar eu hwynebau ac yn sylweddoli gymaint yw eu balchder yn eu gwaith."

________________________________________________________

Nodiadau i olygyddion:

1. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Wynne Williams, Rheolwr Cyfathrebu, Cadwch Cymru’n Daclus

Ffôn:01286 674081

Ffôn symudol: 07824 504791

E-bost: wynne.williams@cadwchgymrundaclus.org

neu Louise Tambini, Cyfarwyddraig Prosiectau, Cadwch Gymru’n Daclus

Ffôn: 029 2072 6976

Ffôn symudol: 07824 504790

E-bost: louise.tambin@keepwalestidy.org

2. Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn Elusen Amgylcheddol gofrestredig sydd yn gweithio tuag at wella amgylcheddau lleol Cymru. Cewch ragor o wybodaeth am Cadwch Gymru’n Daclus ar ein gwefan: www.cadwchgymrundaclus.org