Keep Wales Tidy / Cadwch Gymru'n Daclus

Balchder mewn Bagiau

Balchder mewn Bagiau

6 Ion 2010

Balchder mewn Bagiau

Wrth i wleidyddwyr ac arbenigwyr diwydiannol dadlau’r broblem o fagiau plastig sydd yn cael eu taflu, gobeithir ymgyrchwyr amgylcheddol gall arbrawf sydd yn cael ei lywio yng Nghastell-nedd Port Talbot gwneud cyfraniad mawr at leihau’r broblem.

Dangosir arolygiadau a gynhaliwyd gan Cadwch Gymru’n Daclus bod tua 490 miliwn o fagiau mewn cylchrediad yng Nghymru yn unig a bod nifer o rheini yn gwneud llanast o’n tirwedd brydferth ac yn achosi dioddefaint i fywyd gwyllt.

Ar hyn o bryd mae’r rhanfwyaf o fagiau ailddefnyddiadwy yn cael eu gwneud mewn gwledydd Trydydd Byd. Gwneir yn aml gyhuddiadau bod eu cynhyrchiad mewn gwledydd ymhell i ffwrdd yn gallu creu pryderon amgylcheddol a chymdeithasol, yn cynnwys y defnydd o adnoddau naturiol, alltudiaeth a’r defnydd o lafur plant.

Er mwyn goresgyn rhai o’r pryderon, mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi ymrestru cymorth Grŵp Crefft Cilfrew yng Nghastell-nedd Port Talbot. O Ionawr 2010, bydd aelodau’r grŵp yn dechrau’r dasg o gynhyrchu 2,000 o fagiau ailddefnyddiadwy wedi’u gwneud o ddefnydd dieisiau wedi eu rhoi gan bobl o’r ardal leol.

Bydd angen llawer o ddefnydd i gynhyrchu 2,000 o fagiau. Gofynnir i bobl leol sydd am gyfrannu tuag at Gymru ddi-sbwriel i chwilio yn eu cartrefi am unrhyw ddefnydd dieisiau – bydd llenni a gorchuddion gwely yn ddelfrydol. Bydd y trefnwyr yn croesawu’r rhodd o beiriannau gwnïo er mwyn galluogi bod mwy o wirfoddolwyr yn cymryd rhan. Gellir gadael eich rhoddion yn safleoedd yng Nghastedd-nedd, Port Talbot, Abertawe a Maesteg (gweler union leoliadau isod).

Yn ogystal i’r defnydd dieisiau a pheiriannau gwnïo, mae Cadwch Gymru’n Daclus yn chwilio am wirfoddolwyr sydd gydag amser sbâr rhwng Ionawr a Mawrth i helpu. Mae angen gwirfoddolwyr i sortio, torri, gwnïo ac argraffu’r bagiau. Bydd yr hyfforddiant i gyd yn cael ei ddarparu.

Mae cymorth eisoes wedi cael ei addo gan Goleg Castell-nedd Port Talbot, Ardaloedd Adnewyddiad CPT, WI Cwmafon, New Sandfields Aberavon, Cwmafon WI, New Sandfields Aberavon, Cyngor Castell-nedd Port Talbot i Wasanaeth Gwirfoddol a’r Gwasanaeth Troseddwyr Ifanc.

Sylwodd Tegryn Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus, "Gobeithiwn bydd y prosiect hwn yn dangos pobl Cymru a chynulleidfa fwy eang y gall llawer cael ei gyflawni i wella ein hamgylchedd trwy gymryd camau bach a syml. Bydd miloedd o bobl ar draws Cymru fydd am gael rôl mewn gwella eu hamgylchedd ond am ryw reswm sydd heb ddarganfod y ffordd fwyaf cyfleus i ddefnyddio eu sgiliau".

Ychwanegodd, "Bydd yna bobl sydd yn gyfyng i’w cartrefi sydd ar hyn o bryd yn teimlo eu bod yn methu cymryd rhan mewn mentrau sydd angen ymdrech gorfforol. Mae’r prosiect hwn yn rhoi’r cyfle i bobl wneud cyfraniad mawr o ddiddanwch eu cartrefi. Diolchwn wirfoddolwyr o’r Grŵp Cilfrew am eu hymraniad llawn i ddangos esiampl".

Bydd cyfnod arbrofol y fenter yn cael ei ddogfennu a chynhyrchir canllawiau er mwyn helpu creu mentrau cymdeithasol ym mhob cornel y wlad.

Os oes ddiddordeb gennych mewn cymryd rhan cysylltwch â Linda Ware, cydlynydd gwirfoddol Grŵp Crefft Cilfrew, ar 01639 632286, neu ffôn symudol 07790 727250, neu e-bostiwch linda.ware1@ntlworld.com.

Gall unrhyw ddeunydd dieisiau a pheiriannu gwnïo cael eu gadael yn y lleoliadau canlynol:

Campysau Coleg Castell-nedd Port Talbot

Campws Castell-nedd - Ffordd Dŵr-y-Felin, Castell-nedd. SA10 7RF

Campws Afan- Margam, Port Talbot. SA13 2AL

Coleg Pontardawe - Tŷ Tawe, Ystâd Ddiwydiannol Alloy, Pontardawe, Abertawe. SA8 4EN

Canolfan Stryd y Frenhines - Stryd y Frenhines, Castell-nedd. SA11 1DL

Tŷ Twyn Yr Hydd - Parc Gwledig Margam, Port Talbot. SA13 2TJ

Canolfan Hyfforddi Adeiladwaith Maesteg - Uned 7, Canolfan Ddiwydiannol Spelter, Maesteg

Canolfan Hyfforddi Adeiladu Crefft - Clôs Dewi Sant, Llansamlet, Abertawe. SA6 8QT

Campws Llandarcy - Parc Llandarcy, Llandarcy, Castedd-nedd. SA10 6JD

Swyddfeydd Ardaloedd Adnewyddiad Cyngor CPT - Safle Wellington, Aberafan.

Swyddfeydd Ardaloedd Adnewyddiad Cyngor CPT - Tŷ Brenin Edward, Ffordd Llundain, Castell-nedd.

New Sandfields Aberavon - Tŷ Arian, Rhodfa Arian, Sandfields, Port Talbot.

Swyddfa Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castedd-nedd Port Talbot– Tŷ Margaret Thorne, 17-19 Stryd Alfred, Castell-nedd

Canolfan Gymunedol Cilfrew

Cliciwch isod i lawrlwytho posteri i roi i fyny yn eich ardal leol

Rhowch yma

Mae angen gwirfoddolwyr

Nodiadau i olygyddion

1. Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn Elusen Amgylcheddol gofrestredig sydd yn gweithio tuag at wella amgylcheddau lleol Cymru. Cewch ragor o wybodaeth am Cadwch Gymru’n Daclus ar ein gwefan: www.cadwchgymrundaclus.org

2. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Louise Tambini, Cadwch Gymru’n Daclus, ar 029 2072 6976, neu e-bostiwch louise.tambini@keepwalestidy.org