11 Ion 2010
Strydoedd gwarthus ein gwlad
Mae arolygon eang a gynhaliwyd gan Cadwch Gymru’n Daclus, yr ymgyrchwyr amgylcheddol, wedi dangos mai sbwriel smygu yw’r math mwyaf cyffredin o sbwriel ar strydoedd a phalmentydd Cymru ac maent yn galw ar y cyhoedd i enwi’r strydoedd lle mae sbwriel smygu ar ei waethaf.
Bonion sigaréts yw’r mwyafrif o sbwriel Cymru. Roedd sbwriel smygu i’w weld yn amlwg ar oddeutu 90% o’r strydoedd a arolygwyd yn ystod y 12 mis diwethaf. Roedd hyn ychydig yn llai na’r llynedd ond mae’r sefyllfa’n dal yn annerbyniol ac mae’n adlewyrchu’n wael ar y cymunedau hynny.
Yn ystod y misoedd nesaf bydd y cyhoedd yn cael eu hannog i gerdded ar hyd strydoedd y wlad a thynnu lluniau o’r strydoedd lle mae sbwriel ar ei waethaf. Yna bydd Cadwch Gymru’n Daclus yn asesu’r lluniau ac yn enwi’r strydoedd gwaethaf er mwyn codi cywilydd arnynt.
Mae biniau smygu y tu allan i lawer o dafarndai, bwytai a swyddfeydd ond nid yw pawb yn eu defnyddio. Os yw busnesau yn awyddus i beidio â chael eu henwi rhaid iddynt annog eu cleientiaid i roi bonion eu sigaréts yn y bin. Os yw’r bin yn llawn dylent ei wagu a sicrhau nad oes bonion a sbwriel ar y palmant!
Nid yw pawb yn ystyried bod bonion sigaréts yn sbwriel ond gallai troseddwyr dderbyn dirwy o hyd at £75 am ollwng bonion mewn mannau cyhoeddus. Mae eraill yn credu bod bonion sigaréts yn fioddiraddadwy; nid yw hynny’n wir ac maent wedi eu gwneud o asetad seliwlos sydd yn cymryd hyd at ddeuddeng mlynedd i ddiraddio, a gall plant ac anifeiliaid eu bwyta. Maent hefyd yn halogi dŵr gan eu bod yn cynnwys cemegolion gwenwynig megis cadmiwm, plwm a sinc sydd yn gollwng i’r pridd a’r dyfrffyrdd wrth i’r bonion ddechrau pydru.
Mae sbwriel smygu’n edrych yn hyll ac mae’n anodd ei lanhau. Mae’r bonion yn syrthio i’r gratiau a’r craciau yn y palmentydd ac maent bron yn amhosibl eu clirio yn y ffyrdd arferol. Mae’n gwneud y gwaith o lanhau’n gostus iawn.
Os oes aelodau o’r cyhoedd yn dymuno enwi stryd dylent anfon yr enw at sbwrielsmygu@cadwchgymrundaclus.org erbyn dydd Gwener, 5 Chwefror. Bydd Cadwch Gymru’n Daclus yn tynnu sylw at y rhai gwaethaf ac yn cynnig cydweithio gyda busnesau i geisio mynd i’r afael â’r broblem.
Nodiadau i olygyddion
1. Os am fwy o wybodaeth cysylltwch â:
Wynne Williams, Swyddog Cyfathrebu, Cadwch Gymru’n Daclus.
Rhif ffôn 01286 674081, Symudol 07824 504791
2. Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn Elusen Amgylcheddol Gofrestredig sydd yn gweithio tuag at wella amgylchedd Cymru. Cewch ragor o wybodaeth am Cadwch Gymru’n Daclus ar ein gwefan: www.cadwchgymrundaclus.org