28 Ion 2010
Strydoedd Cymru yn lanach
Mae canlyniadau a gyhoeddir heddiw gan yr ymgyrchwyr amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus yn dangos tra bod y rhanfwyaf o strydoedd Cymru wedi eu difetha gan sbwriel, mae newyddion da ar y gorwel. Dangosir bod yna leihad cyffredinol yn y mathau gwahanol o sbwriel a chofnodwyd gan y timau arolwg. Dangosir yr adroddiad, ‘Pa mor lân yw ein strydoedd?’, faint o sbwriel sydd ar y llawr ac ymhle.
Yn ystod y 12 mis diwethaf ymwelodd yr arolygwyr pob awdurdod lleol yng Nghymru er mwyn cynnal archwiliadau manwl ar ganran o ganolau trefi a lleoliadau preswyl. Gan ddefnyddio methodoleg gymeradwy Llywodraeth Cynulliad Cymru, cafodd cyfanswm o 3,464 o strydoedd a 108 o safleoedd ymarferol eu harchwilio’n fanwl a’r datganiadau eu cofnodi.
Dim ond 1.9% o strydoedd cafodd eu darganfod heb unrhyw sbwriel ond yn gymharol i arolwg y flwyddyn flaenorol, roedd y mynegrif glendid cyffredinol wedi gwella o 65 i 66.87.
Y sbwriel fwyaf cyffredin yn bresennol oedd sbwriel smygu, a gafodd ei ddarganfod ar gyfartaledd o 86% o leoliadau; y gwaethaf oedd Caerdydd, Blaenau Gwent, Caerffili a Rhondda Cynon Taf. Ond fe ddangosir y canlyniadau bod yna leihad o 4% ym mhresenoldeb sbwriel smygu i’w gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Dangoswyd bod pedwar ar ddeg awdurdod lleol wedi gwella glendid eu strydoedd ond bod wyth wedi methu gwella ar ganlyniadau llynedd. Yn nhermau canrannau, llwyddodd Sir Fynwy a Chasnewydd i ddod yn uchaf ar restr cynghorau sydd yn gwella ond gwaethygodd mynegrif glendid cyffredinol ym Mlaenau Gwent, Pen-y-bont, Caerffili, Caerdydd, Sir Ddinbych, Sir Fflint, Merthyr Tudful a Thorfaen pan gymharwyd gyda’u canlyniadau 2007-2008. Cafodd y mynegrif uchaf ei ffeindio yng Nghonwy, gyda Blaenau Gwent a Chaerdydd yn derbyn y canlyniadau isaf.
Yn nhermau sbwriel penodol, cafodd 21.7% o strydoedd Blaenau Gwent eu heffeithio gan sbwriel o ganiau a photeli diod a chafodd 28.3% o strydoedd Caerdydd eu heffeithio gan sbwriel bwyd cyflym.
Roedd sbwriel o fusnesau, sydd yn cynnwys papur, amlenni, , taflenni hysbysebu a bandiau elastig coch sydd yn cael eu defnyddio’n gyffredinol gan y Swyddfa Bost, yn bresennol ar gyfartaledd o 18.3% o strydoedd. Darganfuwyd y bandiau ar 21.15% o strydoedd ym Merthyr Tudful; y strydoedd gyda’r canran isaf o fandiau arnynt oedd yng Nghonwy. Cafodd Sir Fflint lleihad o 40% mewn gwastraff fusnes tra cafodd Ynys Môn cynnydd o 15%.
Sylwyd bod baw cŵn yn broblem fawr ym Mlaenau Gwent ond roedd newyddion da i Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Chastell-nedd Port Talbot gan nid oedd unrhyw arwyddion o fandaliaeth yn lleoliadau’r arolygon. Er hynny, cafodd Ceredigion ei siomi gan ddigwyddiadau cofnodedig o dipio anghyfreithlon gyda 14% o safleoedd wedi eu heffeithio i’w gymharu â dim o gwbl yn Sir Fynwy, Ynys Môn a Chaerffili.
Hefyd yn gynwysedig yn yr adroddiad mae argymhellion i awdurdodau lleol ar sut i wella rhai o’r problemau a adnabuwyd. Yn uchel ar y rhestr yw galwad i gynghorau i ddefnyddio pwerau gorfodaeth sydd yn bodoli ac i annog ymglymiad cymunedol yn y frwydr i wella amgylchiadau lleol mewn ffordd gynaliadwy.
Sylwodd y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Jane Davidson:
"Rwyf yn falch i weld bod yna gynnydd cyffredinol yng nglendid canolau trefi ar draws Cymru. Mae presenoldeb sbwriel smygu dal i fod yn uchel ond rwyf yn obeithiol y bydd hwn a materion sbwriel eraill yn cael eu taclo gan nifer o awdurdodau lleol gyda chymorth Cadwch Gymru’n Daclus. Mae Cymru yn symud ymlaen i fod yn wlad lanach ac edrychaf ymlaen at welliannau pellach yn y dyfodol."
Sylwodd Tegryn Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus:
"Pe bai ddim sbwriel smygu, bydd ein strydoedd wedi cyflawni sgôr glendid llawer gwell, ffaith drist sydd wedi ein harwain i ddechrau ein hymgyrch fwyaf erioed ar sbwriel smygu. Mae’n amlwg nad yw ysmygwyr yn sylweddoli eu bod yn siomi Cymru trwy beidio â binio eu bytiau a bwriadwn eu hatgoffa o’u rhwymedigaethau cymdeithasol a chyfreithiol."
Er mwyn darllen yr adroddiad, cliciwch yma
Nodiadau i Olygyddion
1. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch:
- Wynne Williams, Rheolwr Cyfathrebu, Cadwch Gymru’n Daclus ar
01286 674081, Symudol 07824 504791
- Jeanie Gray, Rheolwraig Polisi ar 029 2072 6961.