1 Chwef 2010
Arian ac Yswiriant Rhad ac Am Ddim ar gael i grwpiau cymunedol!
Gall cadw Cymru’n daclus fod yn waith brwnt ac mae damweiniau yn digwydd o bryd i’w gilydd, ond gall unrhyw un sy’n ymuno â’r frwydr i wella eu hamgylchedd lleol gysgu’n dawel o wybod y gall yr ymgyrchwyr Cadwch Gymru’n Daclus, drwy’r fenter Trefi Taclus, nawr gynnig yswiriant rhad ac am ddim i grwpiau gwirfoddol.
Wedi ei ariannu gan adran Ansawdd Amgylcheddol Lleol Llywodraeth Cynulliad Cymru, gall unrhyw grŵp sydd yn ymgymryd â phrosiect amgylcheddol ymarferol fel rhan o’r prosiect Trefi Taclus nawr wneud cais am yswiriant RHAD AC AM DDIM.
Mae’r grwpiau cyntaf i fanteisio ar y cynllun hwn yn cynnwys: Grŵp Afonydd Caerdydd, Cymdeithas Trigolion Cilfrew, Gofal Afon Machen a Draethen a Chyfeillion Llwybr Arfordirol Ynys Môn.
Yn ychwanegol i’r yswiriant, mae grantiau bychain hefyd ar gael i dalu am yr offer, y cyfarpar, cyhoeddusrwydd a hyfforddiant. Ers mis Ebrill 2009, mae grwpiau ar draws Cymru wedi elwa o’r cynllun. Mae 143 o grwpiau cymunedol wedi derbyn grantiau gwerth £87,075 ac mae arian ar ôl yn y gronfa grantiau sydd yn rhaid ei wario erbyn Mawrth 2010.
Mae grwpiau diweddar sydd wedi elwa o’r cynllun grantiau yn cynnwys:
- Honddu Dippers (Powys) - wedi derbyn £478 ar gyfer cyfarpar casglu sbwriel a diogelwch ac i gynnal diwrnod ymwybyddiaeth Himalyan Balsam
- Friends of Bagillt Foreshore (Sir Fflint) - £287 ar gyfer bylbiau ac offer i alluogi plannu ar y blaendraeth
- Tonyrefail Environmental Organisation (Rhondda Cynon Taf) - £330 ar gyfer cyfarpar a chyhoeddusrwydd i’w galluogi i barhau gyda’r prosiectau amgylcheddol misol
Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi apwyntio Swyddogion Prosiect Trefi Taclus sydd wrth law ar draws Cymru i gynnig cymorth a chyngor ar ffurfio grwpiau, cynnal digwyddiadau a gwneud ceisiadau am grantiau. Mae £30,000 dal ar gael, felly os yw eich grŵp â diddordeb mewn gwneud cais am grant, yna cysylltwch gyda’ch swyddog Trefi Taclus CGD lleol os gwelwch yn dda.
Am fwy o wybodaeth ar y cynllun grantiau bychain Trefi Taclus neu i gael manylion cyswllt eich swyddog prosiect lleol yna cysylltwch gyda Trefi Taclus ar 029 2072 6994, e-bostiwch tidy.towns@keepwalestidy.org neu ewch i www.keepwalestidy.org/our-projects/1284/who-is-your-project-officer
_________________________________________________________________________
NODIADAU I OLYGYDDION
1. Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn Elusen Amgylcheddol Gofrestredig sydd yn gweithio tuag at wella amgylchedd Cymru. Ewch i’n gwefan am ragor o wybodaeth: www.cadwchgymrundaclus.org
2. Am fwy o wybodaeth ar Trefi Taclus ffoniwch 029 2072 6994 neu e-bostiwch tidy.towns@keepwalestidy.org os gwelwch yn dda.
3. Mae Trefi Taclus yn fenter dwy ran rhwng Cadwch Gymru’n Daclus ac Awdurdodau Lleol Cymreig. Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn darparu’r elfen o ymgysylltu â’r gymuned. Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.