3 Maw 2010
Cafwyd prawf eto'r wythnos hon bod gwaith caled i greu Cymru lanach a diogelach yn medru arwain at staff hapus sydd yn llawn brwdfrydedd yn eu gwaith, oherwydd cyhoeddwyd bod yr ymgyrchwyr amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus ymysg dim ond pedwar cwmni o Gymru sydd ar restr y Sunday Times o’r ‘Cwmnïau Gorau i Weithio Iddynt’.
Yn gynharach y mis hwn roedd Cadwch Gymru’n Daclus yn un o ddim ond naw cwmni o Gymru a gafodd ddwy seren mewn arolwg o Gwmnïau Gorau y DG. Cafodd ugain cwmni o Gymru eu cynnwys a chawsant gydnabyddiaeth yn amrywio o ‘rai i’w gwylio’ hyd at seren.
Ymgeisiodd cymaint â 1,086, mwy nag erioed o’r blaen, o sefydliadau o’r sector preifat a chyhoeddus am gael eu hasesu ar gyfer rhestr y Sunday Times sydd yn dilyn system sgorio gyda sêr sydd yn debyg i un Michelin. Rhoddir un seren am berfformiad sydd yn cyrraedd y dosbarth cyntaf a dwy seren am berfformiad eithriadol.
Dim ond 140 o gwmnïau a sefydliadau drwy’r DG gyrhaeddodd statws dwy seren a chafodd 220 un seren.
Cyfeiriwyd yn benodol at ymrwymiad Cadwch Gymru’n Daclus i ‘roi llawer i’r gymuned’, a dim ond pedwar sefydliad arall yn y rhestr o 1,086 o gwmnïau a wnaeth yn well na hynny.
Roedd gan lawer o’r cwmnïau a restrwyd fwy na 100 ar eu staff, o gymharu â’r 59 a gyflogir gan Cadwch Gymru’n Daclus mewn swyddfeydd yng Nghaerdydd, Caernarfon, Penfro ac eraill sydd yn gweithio yn eu cartref. Mae’r cwmni a ddaeth i’r brig yn cyflogi 196 o staff, a’r gwerthiant yn cyrraedd £114 miliwn y flwyddyn.
Nid oedd y newydd yn syndod i Lesley Jones a gychwynnodd yn ei swydd fel Prif Weithredwr y sefydliad ar yr un diwrnod ag y gwnaed y cyhoeddiad. Dywedodd "Rydw i wedi bod yn edmygu’r gwaith a wna Cadwch Gymru’n Daclus ym mhob cornel o Gymru ac rwy’n ymrwymo’n llwyr i geisio sicrhau y byddwn yn adeiladu ar yr anrhydedd a dderbyniodd y sefydliad."
Ychwanegodd "Rwy’n sylweddoli y bydd rhaid i mi roi fy mhrofiad ar waith i sicrhau y bydd y sefydliad rydw i bellach yn bennaeth arno yn parhau i fod yn arweinydd yn ei faes a byddaf finnau, fel fy staff ymroddedig i gyd, yn ymdrechu 100% i sicrhau y medrwn gyflawni ein gweledigaeth o "Gymru Lân, Ddiogel a Thaclus."