Keep Wales Tidy / Cadwch Gymru'n Daclus

Amcanion

Mae Gwerthoedd, Gweledigaeth, Cenhadaeth ac Amcanion Corfforaethol Cadwch Gymru’n Daclus yn amlygu ei Strategaeth Gorfforaethol.

Datganiad o Werthoedd

Nod Cadwch Gymru’n Daclus yw gwireddu’r gwerthoedd canlynol drwy ei waith:

  • bod yn sefydliad sydd yn ystyried egwyddorion datblygiad cynaliadwy yn ei waith;
  • parchu’r staff a gwirfoddolwyr a gofalu eu bod yn gweithio mewn modd diogel;
  • gweithio ledled Cymru ac ymwneud â’r holl bobl sydd yn byw yng Nghymru ac yn ymweld â Chymru;
  • sicrhau ei fod yn cyflawni ei gytundebau;
  • dathlu llwyddiant a dysgu oddi wrth gamgymeriadau;
  • ymdrechu i fod y gorau ym mhopeth a wnawn.

Amcanion Corfforaethol

Er mwyn cyflawni ei Weledigaeth a’i Genhadaeth mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi sefydlu’r Amcanion Corfforaethol canlynol :

Amcan 1KWT roadside

Cynnal gweithgareddau addysgol a fydd yn hybu ymddygiad positif er mwyn sicrhau Cymru lân, ddiogel a thaclus.

Amcan 2

Galluogi cymunedau i ysgwyddo cyfrifoldeb am lendid eu hardal leol.

Amcan 3

Dylanwadu, ymchwilio a rhannu cyngor ac arferion da er mwyn arwain at Gymru lân, ddiogel a thaclus.

Amcan 4

Gosod targedau heriol i fesur y gwelliant yng nglendid a thaclusrwydd yr amgylchedd lleol.

Amcan 5

Gweithio mewn modd effeithiol ac effeithlon a hynny’n ecogyfeillgar.

Canlyniadau

Bydd Cadwch Gymru’n Daclus, trwy weithredu ei Gynllun Gweithredol, yn anelu at y canlyniad hwn:

"Gwelliant yn ansawdd yr amgylchedd lleol yng Nghymru trwy leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a datblygu ymdeimlad o falchder yn ein cymunedau"