Keep Wales Tidy / Cadwch Gymru'n Daclus

Ein Prif Weithredwr

Lesley Jones (3)

Ymunodd Prif Weithredwr newydd i Gadwch Gymru’n Daclus â’r sefydliad ar 1 Mawrth.

Mae Lesley Jones, sydd yn wreiddiol o Wrecsam ac oedd yn flaenorol yn Ddirprwy Brif Weithredwr Canolfan Cydweithredol Cymru, wedi cymryd lle Tegryn Jones sydd wedi ei benodi’n Brif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.

Ar ôl cyfnodau o weithio a theithio dramor bu’n gweithio am ddwy flynedd fel rheolwr swyddfa i Allied Dunbar yn Leeds. Ym 1990 fe’i penodwyd yn Swyddog Maes i Gymdeithas Undebau Credyd Prydain ac roedd yn darparu cefnogaeth a chyngor ar gyfer undebau credyd yng Nghymru a Lloegr.

Dychwelodd i Gymru ym 1992 pan benodwyd hi’n Swyddog Undebau Credyd yng Nghanolfan Gydweithredol Cymru yng Nghaerdydd. Mae’r ganolfan yn darparu cefnogaeth a hyfforddiant ar gyfer mentrau cymdeithasol a chydweithredol. Chwe blynedd yn ddiweddarach cafodd ddyrchafiad i swydd Rheolwr Prosiect Undebau Credyd ac yn y flwyddyn 2004 penodwyd hi’n Ddirprwy Brif Weithredwr y ganolfan.

Mae Lesley yn awyddus i ddechrau yn ei rôl newydd a dywedodd:

"Rydw i’n teimlo ers blynyddoedd fy mod yn awyddus i gyfrannu tuag at greu Cymru Lân, Ddiogel a Thaclus a byddaf yn rhoi fy holl brofiad blaenorol ar waith er mwyn cyrraedd y nod hwnnw. Fydd hi ddim yn hawdd ond rwy’n edrych ymlaen at yr her."

Mae staff Cadwch Gymru’n Daclus yn croesawi Lesley i’r sefydliad.