Keep Wales Tidy / Cadwch Gymru'n Daclus

Amdanom ni

Mwy o wybodaeth

Cadwch Gymru’n Daclus

33–35 Heol yr Eglwys Gadeiriol
Caerdydd
CF11 9HB

E: south@keepwalestidy.org

FF: 029 2025 6767

Mae Trefi Taclus ar Facebook!

Follow Tidy Towns on Facebook and become a fan. You can post pictures, publicise events and add comments. Get involved!

Dilynwch ni ar Twitter!

Newyddion Diweddaraf

Amdanom ni

Gweledigaeth Cadwch Gymru’n Daclus yw cael "Cymru Lân, Ddiogel a Thaclus"

Mae Cymru lân a thaclus yn debygol o fod yn Gymru ddiogelach. Yr ardaloedd nad yw pobl am fentro iddynt wedi nos yw’r ardaloedd lle mae pobl yn tipio’n anghyfreithlon ac sydd heb gael eu cynnal a’u cadw, a lle mae graffiti a cherbydau wedi eu gadael. Mae lleihau’r ofn o drosedd yn lleihau’r nifer o droseddau sydd yn cael eu cyflawni, ac mae hynny’n golygu bod y cyhoedd yn barotach i ddefnyddio eu hamgylchfyd lleol 19a ac mae’n lleihau’r nifer o gyfleoedd i eraill niweidio eu hamgylchfyd.

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn ystyried mai’r ffordd orau o gael "Cymru lân a thaclus" yw trwy newid agwedd pobl fel y byddant yn llai tebygol o weithredu mewn ffyrdd a fydd yn effeithio’n niweidiol ar eu hamgylchedd lleol. Bydd Cadwch Gymru’n Daclus yn edrych yn holistaidd ar yr amgylchedd lleol ac yn ceisio mynd i’r afael â phroblemau megis taflu sbwriel, tipio anghyfreithlon, baw cŵn, graffiti, gosod taflenni heb ganiatâd a fandaliaeth. Byddwn yn targedu ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn ceisio newid ymddygiad pobl fel na fydd eu hymddygiad yn niweidio ansawdd yr amgylchedd lleol.

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn ystyried y gellir cael Cymru Lân, Ddiogel a Thaclus drwy gyfrwng y canlynol:

  • Addysg;
  • Galluogi cymunedau lleol i edrych ar ôl eu hardal;
  • Gorfodaeth; a
  • Gweithredu effeithiol gan Awdurdodau Lleol.

Cenhadaeth

Er mwyn cyflawni’r weledigaeth gytunedig mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi cytuno ar y datganiad canlynol o genhadaeth:

"Bydd Cadwch Gymru’n Daclus yn gweithio er mwyn hybu gwaith lleol i ddiogelu a gwella amgylchedd Cymru."

Nid yw Cadwch Gymru’n Daclus yn ysgwyddo cyfrifoldeb am lendid a thaclusrwydd Cymru, ond bydd yn gweithredu i annog unigolion, grwpiau a sefydliadau i weithredu mewn ffyrdd a fydd yn arwain at Gymru Lân, Ddiogel a Thaclus. rusty cars

Bydd y prif weithgareddau’n cynnwys:

  • Addysg: annog unigolion a sefydliadau i gael gwared o wastraff rhag iddo droi’n sbwriel; annog pobl i arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu; gostyngiad mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol megis tipio anghyfreithlon, gosod taflenni heb ganiatâd, graffiti, baw cŵn a fandaliaeth
  • Galluogi cymunedau lleol i edrych ar ôl eu hardal gan roi cymorth i gymunedau lleol i’w galluogi i ysgwyddo cyfrifoldeb am eu hamgylchedd
  • Gorfodaeth a gweithredu effeithiol. Er nad oes gan Cadwch Gymru’n Daclus ran uniongyrchol yn y gweithgareddau hyn byddwn yn ceisio rhannu arferion da a darparu gwasanaeth cynghori. Gwneir hyn drwy rannu cyngor ac arferion da.