Mae baw cŵn yn cael ei gyfrif gan y rhan fwyaf o bobl yn un o’r mathau gwaethaf o wastraff. Amcangyfrifir bod cŵn y DU yn cynhyrchu oddeutu 1,000 o dunelli'r dydd. Cyfrifoldeb perchnogion y cŵn yw glanhau ar ôl eu cŵn ond yn anffodus mae rhai pobl yn anwybyddu’r cyfrifoldeb hwn. Mae baw cŵn ar 14% o strydoedd Cymru ar gyfartaledd. Gan fod baw cŵn yn niweidio iechyd mae’n holl bwysig ein bod yn ymdrechu’n galed i ostwng y ffigurau hyn.
Beth Ydy'r Problem?
Afiechyd yw Tocsocariasis a gaiff ei achosi gan wyau’r llyngyr tocsocara sy’n medru cael eu trosglwyddo o gŵn i ddynion os deuant i gysylltiad â baw ci a phridd heintiedig. Mae plant yn arbennig mewn perygl a gall heintiad arwain at salwch a hyd yn oed amharu ar y golwg. Gellid atal y risg i iechyd, a dyna’r prif reswm pam y dylai perchnogion lanhau baw eu hanifeiliaid. Nid yw baw sydd newydd ei ollwng yn beryglus gan nad yw wyau tocsocara yn heintus hyd nes eu bod yn embryogenig, cymer hynny tua 2-3 wythnos – yna bydd yr ŵy microsgopig yn heintus am o leiaf ddwy flynedd.
Pwy sydd yn gifrifol am lanhau baw cŵn?
Mae gan yr awdurdodau lleol hawl i ofyn i gerddwyr ci lanhau ar ôl y ci. Gall unrhyw un nad yw'n gwneud hynny wynebu Hysbysiad Cosb Benodol o hyd at £150 neu fynd i'r llys lle mae uchafswm y ddirwy'n £1000
Er mwyn cael baw cŵn wedi ei glirio ffoniwch eich awdurdod lleol gan nodi'n union ymhle y mae're baw. Anfonwch lythyr i gadarnhau'r gwyn gan ailadrodd yr un wybodaeth.
Mae cwyn ffurfiol yn ddigon fel arfer i wneud i'r awrdurdod i gael sbwriel a gwastraff, can gynnwys baw cŵn, wedi ei glirio.
Beth yw’r ffordd orau i lanhau ar ôl eich ci?
Defnyddiwch fag ci, neu fag plastig, i gasglu’r baw. Yn ddelfrydol, dylech wedyn roi’r bag mewn bin cŵn penodedig. Os nad yw hynny’n bosibl, ewch â’r bag adref neu os oes rhaid, gorchuddiwch y bag yn iawn a’i roi mewn bin sbwriel cyffredin.
LAWRLWYTHWCH EIN TAFLEN BAW CŴN YMA