Keep Wales Tidy / Cadwch Gymru'n Daclus

Mwy o wybodaeth am Sbwriel Bwyd Parod

LEQ Department
Keep Wales Tidy
33-35 Cathedral Road
Cardiff
CF11 9HB

E: leq@keepwalestidy.org
Ff: 029 2025 6767

Sbwriel Bwyd Parod

Mae sbwriel bwyd parod ar 17% o strydoedd Cymru ar gyfartaledd, yn cynnwys papur sglodion, pacedi creision, cartonau diodydd a gweddillion bwyd. Mae hwn yn ormod o bris i’w dalu gan nad anharddu’r ardaloedd yn unig y mae’r sbwriel hwn, ond mae hefyd yn fagwrfa Fast food litterar gyfer bacteria niweidiol. Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn annog pobl i feddwl ddwywaith cyn taflu gweddillion eu bwyd. Mae’r deunydd pecynnu’n cael ei ddefnyddio am ychydig funudau ac yna’n cael ei daflu naill ai i fin sbwriel neu ar y stryd neu ar ochr y ffordd. Mae cynhwysydd plastig cyffredin yn cymryd rhwng 20 a 30 o flynyddoedd i ddiraddio.

Mae’r disgrifiad o’r math hwn o fwyd fel ‘bwyd i fynd’ yn dangos bod pobl yn bwyta’r bwyd wrth iddynt fynd o gwmpas y lle. Y tebygrwydd, felly, yw y bydd y sbwriel yn cael ei daflu ar y stryd. Mae sbwriel bwyd parod ar ei waethaf yn hwyr y nos pan mae pobl yn dod o’r tafarnau a’r clybiau, yn arbennig yn ystod y penwythnos. Yn eironig iawn, dyna’r union adeg pan mae llai o waith glanhau strydoedd yn cael ei wneud.Fast Food Bus

Y bobl hwyrol hyn oedd targed ymgyrch Cadwch Gymru’n Daclus a gynhaliwyd cyn y Nadolig 2008. Neges yr ymgyrch oedd ‘Biniwch!’. Gosodwyd posteri ar fysiau trwy Gymru gyda llun stryd yn llawn o sbwriel bwyd, ac roedd yn ffordd dda o gyfathrebu â phobl a oedd yn mynd i’r dre ar y bws.