Keep Wales Tidy / Cadwch Gymru'n Daclus

Cysylltwch â LEQ

Adran LEQ
Cadwch Gymru’n Daclus
33-35 Heol yr Eglwys Gadeiriol
Caerdydd
CF11 9HB

Ff: 02920 256767

E: leq@keepwalestidy.org

Trosedd Graffiti

Cynhaliwyd arolwg yn ddiweddar gan Cadwch Gymru’n Daclus a chanfuwyd bod graffiti ar 12% o strydoedd Cymru ar gyfartaledd. Ym Mawrth 2009, lansiodd Cadwch Gymru’n Daclus ymgyrch i dynnu sylw at y broblem hon sydd yn anharddu cymaint o’n strydoedd. Cafodd canllaw ar graffiti a'r gyfraith o'r enw ‘Graffiti - Trosedd nid Celfyddyd’ ei greu (mae copïau ar gael i'w harchebu yma am ddim, a gellir ei lawrlwytho yma). Hefyd, lluniwyd Cynllun Gweithredu sy'n nodi ffyrdd o fynd i'r afael â'r broblem (gellir lawrlwytho copi ohono yma). Lansiwyd yrGraffiti launch ymgyrch yn Aberafan gyda gwirfoddolwyr o Daclus Sandfields Aberafon ac Adran Droseddau Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot. Cafodd yr ymgyrch lawer o sylw’r cyfryngau ar y teledu, y radio ac mewn print gan iddo gychwyn trafodaeth genedlaethol ar effeithiau graffiti ar gymdeithas.

Beth yw Graffiti?

Y mannau lle gwelir graffiti amlaf yw waliau gwag, dodrefn stryd, pyst lampau, blychau ffôn, llochesi bws, arwyddion ffyrdd, cofebion, pontydd ac eiddo'r rheilffyrdd. Gall Graffiti cynnwys:

Graffiti 2Tagio - Llofnod personal artistig, enw, marc, symbol neu logo a ysgrifennir fel arfer gyda marciwr, paent neu gan chwistrellu.

Sloganau – Mae sloganau ar waliau'n cynnwys geiriau neu negeseuon sydd yn aml yn cynnwys neges o natur dramgwyddus, hiliol, crefyddol, rhywiol neu wleidyddol

Murluniau-
- Llythrennau mawr a chymhleth, cymeriadau cartŵn neu ddelweddau amlwg.

Ysgythriadau - Crafu gwydr, plastig neu baent â chyllell, sgriw neu declyn miniog arall neu ddefnyddio cemegion i losgi neu hydoddi arwynebedd.


Pam fod graffiti'n broblem?

Gall presenoldeb graffiti: Graffiti 3

• Hybu canfyddiad o fewn y gymuned y ceir anwybyddu'r deddfau sydd yn diogelu eiddo cyhoeddus ac eiddo preifat.

•Meirthrin ymdeimlad of ddiffyg parch at eiddo preifat, a allai arwain at gynnydd mewn troseddau, diraddio cymdogaethau a difetha trefi

• Gwneud i ardal edrych fel lle sydd yn cael ei anwybyddu.

• Effeithio'n andwyol ar werth eiddo, cyfleoedd busness a mwynhad aelodau'r gymuned.

• Ychwanegu at ofn o droseddu, a gall wneud i bobl deimlo'n anghyfforddus neu o dan fygythiad.

• Effeithio ar fasnach twristiaeth a buddsoddiad y gymdogaeth gan ei fod yn aml iawn mewn mannau amlwg.graffiti removal

Beth all unigolion ei wneud?

Os byddwch yn canfod graffiti ar eiddo cyhoeddus cewch ffonio'r cyngor lleol neu hysbysu'r heddlu. Yna dylai'r cyngor wneud un o'r canlynol:- Graffiti 2

• Gwneud trefniadau i lanhau'r deunydd oddi ar leoliadau megis adeiladau cyhoeddus, dodrefn stryd a chofebion, neu

• Cysylltu â'r perchennog e.e blychau teleffon, llochesi bws a chypyrddau stryd megis blychau trydan i ofyn iddynt lanhau'r graffiti.