Keep Wales Tidy / Cadwch Gymru'n Daclus

Lluniwch eich ymgyrch eich hun

Mae mwy na £50 miliwn y flwyddyn yn cael eu gwario ar lanhau strydoedd Cymru. Mae’n gyfrifoldeb arnom i gyd i geisio lleihau’r sbwriel a gall ymgyrchu’n lleol gyfrannu tuag at ddatblygu ymdeimlad o falchder ymysg pobl yn eu cymuned leol.

Yma medrwch lunio eich ymgyrch lleol eich hun, darllen drwy ein hastudiaethau achos neu lawrlwytho posteri. Bydd cyfoeth o wybodaeth ar flaenau eich bysedd.

Yn y ‘Canllaw ar Ymgyrchu Lleol’ mae cyngor ac adnoddau i alluogi cynghorau lleol, grwpiau cymunedol a busnesau i fynd i’r afael â nifer o faterion sydd yn ymwneud ag ansawdd yr amgylchedd. Mae’n cynnwys canllawiau ar gynnal ymgyrchoedd lleol, astudiaethau achos a chyfres o bosteri generig y gellir eu haddasu ar gyfer eich ardal.

Mae croeso i chi eu haddasu a’u defnyddio fel y mynnwch ond dylech sicrhau eich bod yn cael caniatâd perchennog y tir cyn gosod poster. Gallwch dderbyn hysbysiad cosb benodol o £75 am osod posteri heb ganiatâd.

Creu eich posteri eich hun

Ydych chi wedi cael llond bol ar Graffiti’n y Groeslon, a Sbwriel yn Sblot? Dim ond i chi lawrlwytho’r adnoddau canlynol medrwch lunio eich ymgyrch lleol eich hun. Mae pob dogfen PDF yn caniatáu i chi ei haddasu er mwyn cynnwys enw’ch stryd, ysgol, tref neu ardal - yn barod i chi eu hargraffu a’u defnyddio yn y gymuned.

Cynnal Ymgyrch Gweddillion Gwm Cnoi
Cynnal Digwyddiad Pigo Sbwriel Cymunedol
Cynnal Digwyddiad Sgip Cymunedol
Cynnal Ymgyrch Leol yn Erbyn Baw Cŵn
Sbwriel Bwyd Parod
Tipio Anghyfreithlon
Cynnal Ymgyrch Graffiti Leol
Cynnal Ymgyrch Twyll Hunaniaeth Leol
Sbwriel Traeth
Mae sbwriel yn boen
Cynnal Cystadleuaeth Casglu Bandiau Elastig Coch Leol
Sbwriel ar ochr y ffordd
Cynnal Ymgyrch Sbwriel sy'n ymwneud ag Ysmygu
Trefi Taclus
Cynnal Amnest Teiars a Cynnal Amnest Offer Trydanol CTEG

Astudiaethau Achos

Dyma ddetholiad o astudiaethau achos a fydd yn help i chi ar gyfer eich ymgyrch. Maent yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol ynglŷn â pharatoi a hysbysebu eich ymgyrch. Maent hefyd yn cynnwys cyfarwyddyd ynglŷn â beth y dylai eich ymgyrch ei gynnwys a rhoddir enghraifft o ymgyrch llwyddiannus.

Ymgyrch Gweddillion Gwm cnoi
Digwyddiad Pigo Sbwriel Cymunedol
Digwyddiad Sgip Gymunedol
Astudiaeth achos Baw Cŵn
Taflen wybodaeth am Faw Cŵn
Graffiti
Twyll Hunaniaeth
Astudiaeth Achos Bandiau Rwber Coch

Sbwriel sy'n ymwneud ag Ysmygu
Llyfryn ‘Cynnal Amnest Gwastraff'

Posteri i’w Lawrlwytho

Cliciwch yma i lawrlwytho poster i’w arddangos yn eich cymuned

Poster Baw Cŵn
Biniwch!
Poster Sbwriel Pobl Ifanc
Byddwch Falch ... o’ch Ysgol
Byddwch Falch ... o’n Cefn Gwlad
Byddwch Falch ... o’ch Stryd
Byddwch Falch ... o’n Harfordir