Keep Wales Tidy / Cadwch Gymru'n Daclus

Ymgyrchoedd

Ein nod yw newid agwedd ac ymddygiad pobl tuag at Sbwriel a Gwastraff drwy gyfrwng ein hymgyrchoedd, rhaglenni a phrosiectau. Mae Keep Wales Tidy PostersCadwch Gymru’n Daclus yn cynnal llawer o ymgyrchoedd i dynnu sylw at y niwed y mae ymddygiad anghyfrifol yn ei wneud i’n gwlad. Mae llawer o’n hymgyrchoedd yn gysylltiedig â phapurau polisi a gyhoeddwn ac eraill yn ganlyniad uniongyrchol i adborth gan y cyhoedd. Rydym yn cydweithio’n agos gydag Awdurdodau Lleol i rannu arferion da ar gyfer gwaith lleol. Rydym hefyd wedi cynnal ymgyrchoedd cenedlaethol llwyddiannus.

Mae mwy o wybodaeth am ein hymgyrchoedd ar gael drwy glicio ar y maes penodol sydd o ddiddordeb i chi. Os hoffech helpu gydag ymgyrch drwy ddangos poster un o’n hymgyrchoedd, gofynnwn i chi gwblhau ffurflen gais am lenyddiaeth.