Grŵp Cymunedol
Tystiolaeth o welliant amgylcheddol
- Ym mhle y cynhaliwyd eich prosiect / prosiectau a pham y cafodd ei ddewis.
- Manylion am faint o sbwriel/baw cŵn/graffiti/arall a gafodd ei glirio. Os yn bosibl, cyflwynwch dystiolaeth ar ffurf lluniau ‘cynt ac wedyn’.
- Yn ogystal â hynny rhaid cyflwyno tystiolaeth o unrhyw fesurau ataliol neu welliannau amgylcheddol a wnaed (ee ailgylchu, gwella cynefin a mynediad).
- Tystiolaeth o’r amrywiaeth o weithgareddau a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
- Tystiolaeth o’r nifer o weithgareddau a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Y Bobl a fu’n gweithio
- Nifer o wahanol bartneriaid e.e. grwpiau eraill, clybiau, sefydliadau a maint eu rhan.
- Nifer o gyfranogwyr ee trigolion lleol.
Budd i’r Gymuned
- Budd o’r prosiect i’r gymuned ehangach (ee sgil effeithiau llesol yn y tymor hir).
- Adborth gan y gymuned leol.
- Tystiolaeth o’r ffordd y mae’r prosiect wedi dod â’r gymuned ynghyd, gwell ysbryd cymunedol etc.
- Tystiolaeth o’r ffordd y mae’r gwaith wedi ychwanegu at sgiliau/hyder y cyfranogwyr.
Hyd y prosiect
- Hyd y prosiect o’r cynllunio cychwynnol hyd at y gwaith cyntaf, a’r gwaith hyd yma.
- Tystiolaeth o welliannau hirdymor/parhaus ee amlder y gwaith.