Keep Wales Tidy / Cadwch Gymru'n Daclus

Sector Cyhoeddus

Gwobr y Sector Cyhoeddus

Cymhwyster

Mae’r wobr hon yn agored i unrhyw sefydliad sydd yn derbyn y mwyafrif o’i arian o ffynonellau cyhoeddus, ac eithrio sefydliadau gwirfoddol. Mae’r sefydliadau sydd yn gymwys yn cynnwys Awdurdodau Lleol, Cynghorau Tref a Chymuned, Cyrff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad a phrosiectau sydd yn cael eu rhedeg gan yr uchod. Mae partneriaethau sydd yn cynnwys aelodau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol sydd yn cael eu trefnu a’u hariannu’n bennaf gan y sector cyhoeddus hefyd yn gymwys i ymgeisio.

Dangoswch fod pob prosiect sydd i gael ei ystyried yn ychwanegol at unrhyw ddyletswydd statudol.

Tystiolaeth o welliant amgylcheddol

  • Ym mhle y cynhaliwyd eich digwyddiad a pham y cafodd hwnnw ei ddewis.
  • Manylion am faint o sbwriel/baw cŵn/graffiti/arall a gafodd ei glirio. Os yn bosibl, cyflwynwch dystiolaeth ar ffurf lluniau ‘cynt ac wedyn’.
  • Yn ogystal â hynny rhaid cyflwyno tystiolaeth o unrhyw fesurau ataliol neu welliannau amgylcheddol a wnaed (ee ailgylchu, gwella cynefin a mynediad).

Y Bobl a fu’n gweithio

  • Nifer o wahanol bartneriaid e.e. grwpiau, clybiau, sefydliadau a maint eu rhan yn cynnwys rôl y corff cyhoeddus.
  • Nifer o gyfranogwyr ee gwirfoddolwyr, plant.

Budd i’r Gymuned

  • Budd o’r prosiect i’r gymuned ehangach (ee sgil effeithiau llesol yn y tymor hir).
  • Adborth gan y gymuned leol.

Hyd y prosiect

  • Hyd y prosiect o amser ei gynllunio hyd at weithredu.
  • Tystiolaeth o welliannau hirdymor/parhaus ee amlder y gwaith.

Budd

  • Ystyrir maint y corff cyhoeddus a’r canlyniadau.