Keep Wales Tidy / Cadwch Gymru'n Daclus

Wythnos Cymru Daclus

Dewch i'n helpu yn Wythnos Cymru Daclus 2010! Yn dilyn ein llwyddiant llynedd, hoffwn gael mwy ohonoch i'n hymuno. Rhwng 20 a'r 26 Medi bydd digwyddiadau ledled Cymru a bydd cyfle i chi fenthyg llaw ble bynnag yr ydych yn byw. Bydd pecynau ar gael am ddim o'r haf ymlaen felly dewch yn ôl yn fuan pan fydd ffurflenni cofrestru ar gael.

Llynedd, roeddem yn lwcus iawn i gael dros 50,000 o bobl i gymryd rhan, a dosbarthwyd bron 1, 300 o becynnau glanhau am ddim. Daliwyd llu o ddigwyddiadau ar draws y wlad a chafwyd llawer o sylw gan y wasg. Llwyddodd hwn i godi ymwybyddiaeth ac i atgoffa pobl am bwysigrwydd cadw Cymru'n daclus!

GC1