Keep Wales Tidy / Cadwch Gymru'n Daclus

Diddordeb?

Os ydych â diddordeb i ddechrau grŵp eich hun, neu ymuno a grŵp sydd wedi ei sefydlu eisioes, cysylltwch â'r cydlynydd prosiect

Ff: 029 2038 1721

E: greencommunities
@keepwalestidy.org

Cymunedau Gwyrdd

Daeth y prosiect Cymunedau Gwyrdd i ddilyn y Prosiect Arfordir Glân. Prosiect partneriaeth yw hwn rhwng Cadwch Gymru'n Daclus ac An Taisce yn Iwerddon. Caiff ei ariannu gan grant rhaglen Iwerddon a Chymru, lnterreg 4A, o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.


GC1

Mae grwpiau o wirfoddolwyr o Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion, Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy yn rhannu eu profiadau a'u cyngor gyda grwpiau yn Iwerddon - yn Nulyn, Meath, Kildare, Wicklow, Carlow, Wexford a De Tipperary. Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar wella bioamrywiaeth ac ar y newid yn yr hinsawdd.

Mae pob grŵp wedi 'mabwysiadu' ardal gyda phrosiectau mewn golwg i wella'r amgylchedd naturiol a'r mynediad ato. Yn ogystal â hynny, mae grwpiau yn clirio sbwriel yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn prosiectau creadigol megis adfer cynefinoedd, gerddi cymunedol, gwella mynediad, gwella bioamrywiaeth a rheoli rhywogaethau ymledol. Mae'r grwpiau hefyd yn ystyried eu gweithgareddau gan geisio cynhyrchu llai o garbon mewn ffyrdd megis seiclo at waith clirio sbwriel.

GC2


  • Mae grantiau bach ar gael i grwpiau i'w helpu i dalu am yswiriant, deunyddiau ac offer.
  • Bydd swyddogion prosiect lleol wrth law i gynorthwyo grwpiau drwy gynnig cyngor a chymorth ymarferol.
  • Bydd grwpiau o Iwerddon a Chymru'n cael cyfle i gyfnewid syniadau a chefnogi prosiectau'r naill a'r llall.

Oes gennych chi ddiddordeb?

Os hoffech gymryd rhan drwy sefydlu eich grŵp eich hun neu drwy ymuno a grŵp sydd eisoes wedi ei sefydlu cysylltwch â chydlynydd y prosiect.
Rhif ffôn: 029 2038 1721
E-bost: greencommunities@keepwalestidy.org