Keep Wales Tidy / Cadwch Gymru'n Daclus

Cymunedau Glanach a Gwyrddach


Prosiect partneriaeth yw Cymunedau Glanach a Gwyrddach rhwng Cadwch Gymru’n Daclus, BTCV a Groundwork. Rydym i gyd yn cydweithio gyda grwpiau cymunedol yn ardal Blaenau’r Cymoedd er mwyn rhoi:


Cefnogaeth a ChyngorPark Area Residents Clean up1

Gall grwpiau cymunedol gael cymorth a chyngor arbenigol gan swyddogion prosiect Cadwch Gymru’n Daclus. Mae swyddogion y prosiect yn cynnig cyfoeth o wybodaeth amgylcheddol a chadwraethol yn ogystal â chymorth ymarferol.

Mae’r enghreifftiau o gymorth a chefnogaeth ymarferol y gall swyddog prosiect eu cynnig yn cynnwys :

  • Cymorth a chefnogaeth i sefydlu grŵp cymunedol neu i ddatblygu grwpiau sydd mewn bodolaeth
  • Cyngor ynglŷn â syniadau am brosiectau amgylcheddol yn eich ardal
  • Cymorth i drefnu sesiynau casglu sbwriel a glanhau
  • Cymorth a chyngor ynglŷn â phlannu planhigion a choed cynhenid i ychwanegu at fioamrywiaeth

Cymorth Ariannol

Mae Grantiau Cymunedol hyd at £1,000 ar gael i grwpiau ar gyfer prosiectau ymarferol. Gall y grantiau dalu am yswiriant, offer, cyfarpar a chyhoeddusrwydd. Dyma rai o’r grwpiau sydd wedi cael grantiau cymunedol:

Derbyniodd Prosiect Eglwys Cornerstone £740 i alluogi’r grŵp i brynu deunyddiau a phlanhigion ar gyfer eu Prosiect Rhandir Cymunedol yn Aberdâr.

Derbyniodd Grŵp Cymunedol Mountain Hare ym Merthyr Tudful £566 i brynu offer, cyfarpar gwarcheidiol a phecyn cymorth cyntaf. Mae’r grant yn galluogi’r grŵp i dacluso rhan fach o dir lleol gan ofalu amdano a’i wneud yn fan chwarae diogel i blant.

Derbyniodd Dyfodol Blaenafon yn Nhorfaen £490 ar gyfer yswiriant, offer casglu sbwriel, cyfarpar, planhigion a bylbiau ar gyfer gardd gymunedol ar dir a oedd gynt yn dir diffaith ac ar gyfer casglu sbwriel yn y gymdogaeth.

Derbyniodd Grŵp Gofal Afonydd y Rasau ym Mlaenau Gwent £1,030 ar gyfer yswiriant, offer a chyfarpar diogelwch. Bydd y grant yn cynorthwyo’r grŵp i barhau â’u prosiectau amgylcheddol.

Merthyr Hedgelaying1Hyfforddiant

Gall BTCV Cymru gynnig hyfforddiant i grwpiau cymunedol i’w helpu i wella eu sgiliau ymarferol a’u sgiliau trefnu.

Mae ystod eang o hyfforddiant ar gael i grwpiau ond os yw grwpiau’n canfod bod angen penodol am fath arbennig o hyfforddiant gellir datblygu cwrs ar eu cyfer.

Mae’r enghreifftiau o hyfforddiant yn cynnwys:

Cwrs Asesu Risg i gyflwyno i wirfoddolwyr y sgiliau i’w galluogi i sicrhau bod holl weithgareddau’r grŵp yn ddiogel a bod pob risgiau’n cael eu hystyried a’u lleihau cyn cychwyn ar unrhyw weithgaredd. Cwrs torri gwrychoedd i hyfforddi gwirfoddolwyr sut i ddefnyddio offer torri gwrychoedd a strimio’n ddiogel. Mae llawer o grwpiau cymunedol yn darparu lluniaeth ysgafn i’r gwirfoddolwyr ac felly gall fod arnynt angen am hyfforddiant mewn hylendid bwyd.

Prosiect Mannau Gwyrdd

Mae Groundwork Cymru’n gweithio gyda’r gymuned i drawsnewid ardaloedd a anwybyddwyd a’u gwneud yn adnodd i’r gymuned. Dyma enghreifftiau o brosiectau a gyflawnwyd hyd yma:

Cwmtillery Scout Hut1Prospect Green - Bydd y llain ynghanol Pentref Prospect Green yn llawn o Gennin Pedr yn y gwanwyn. Aeth Cymdeithas Ddinesig y Rhondda a disgyblion Eco-Gyngor Ysgol Gynradd Treorci allan i rewynt dechrau Rhagfyr am ddau fore i blannu 10 sachaid, sef 200 kilo, o fylbiau Cennin Pedr! Gosodwyd mainc hefyd er mwyn i bobl yr ardal fedru mynd i eistedd a mwynhau edrych ar y Cennin Pedr.

Coetir Cymunedol Cwmbach - Bu gwirfoddolwyr lleol yn cydweithio gyda Groundwork yng Nghymru i adfer bywyd i hen goetir diffaith ger Ysgol y Babanod, Cwmbach. Cafodd ei weddnewid drwy i’r gwirfoddolwyr glirio hen goed marw a mieri a chreu coetir cymunedol hyfryd. Agorwyd canopi a lluniwyd llwybr crwn a man eistedd gan ddefnyddio’r gwastraff gwyrdd a gliriwyd o’r safle. Plannwyd bylbiau cynhenid gan wirfoddolwyr er mwyn cael digon o liw yn y gwanwyn. Gall holl aelodau’r gymuned fynd i’r coetir newydd a gellir defnyddio’r man eistedd fel ystafell ddosbarth awyr agored.

Cwt y Sgowtiaid Cwmtyleri - Adferwyd y tir o gwmpas Cwt y Sgowtiaid yng Nghwmtyleri gan aelodau o’r gymuned leol, gwirfoddolwyr o Gymdeithas Tenantiaid a Thrigolion Pen-y-bont a Sgowtiaid Cwmtyleri, ac wrth gwrs, y prosiect Cymunedau Glanach a Gwyrddach. Drwy weithio mewn partneriaeth llwyddwyd i drawsnewid darn o lethr a oedd wedi ei anwybyddu a’i droi’n fan dymunol i’r gymuned.

Os hoffai eich grŵp cymunedol gael help gan Cymunedau Glanach a Gwyrddach cysylltwch â:

Joanna Friedli

Cynorthwyydd Prosiect Cymunedau Glanach a Gwyrddach

029 2038 1733

joannafriedli@keepwalestidy.org