Keep Wales Tidy / Cadwch Gymru'n Daclus

Arfordir Glas

Mae’r Wobr Arfordir Glas yn symbol o ragoriaeth amgylcheddol ac fe’i sefydlwyd i gydnabod, hyrwyddo a gwarchod amgylchedd traethau gwledig Cymru.

Nod y Wobr Arfordir Glas yw:

‘Cydnabod y traethau sydd yn cwrdd â’r Canllawiau ansawdd dŵr ac a werthfawrogir oherwydd eu hamgylchedd glân a naturiol’

Mae’r Wobr hon yn unigryw oherwydd ei bod yn cydnabod y traethau hynny sydd yn cwrdd â safonau Canllawiau ansawdd dŵr (sef Canllawiau’r Gymuned Ewropeaidd ar ansawdd dŵr ymdrochi o’r radd flaenaf) ynghyd â’r Arferion Gorau mewn rheolaeth amgylcheddol ar draethau lle nad oes o angenrheidrwydd gyfleusterau fel sydd mewn cyrchfan glan môr. Rheolir y rhaglen yng Nghymru gan Cadwch Gymru’n Daclus.Lifeboat

Dyfernir y Wobr Arfordir Glas i draethau sydd yn cynnwys y gymuned yn eu rheolaeth, er budd yr ymwelwyr a’r amgylchedd. Rhydd bwyslais cryf ar weithgareddau cymunedol ac amgylcheddol. Gall rhan y gymuned gynnwys, ymysg pethau eraill, Grŵp Gwarchod Arfordir, Gwylwyr y Traeth, neu Gyngor Cymuned.

Treialwyd y Wobr Arfordir Glas yng Nghymru ym 1998 oherwydd galw am gydnabyddiaeth i draethau gwledig lle mae ansawdd y dŵr yn cwrdd â safonau’r Canllawiau Dŵr ond lle nad oes isadeiledd fel sydd yn ofynnol i gwrdd â gofynion y Faner Las neu’r Wobr Glan Môr fel ‘Cyrchfan’.

Roedd Dŵr Cymru wedi buddsoddi £650 miliwn mewn gwaith cyfalaf o amgylch yr arfordir ac wedi helpu i sefydlu rhaglen samplo Dŵr Ymdrochi Heb-ei-Adnabod a oedd yn caniatáu i 101 o draethau ychwanegol gael eu profi o ran ansawdd y dŵr. Fel roedd safon y dŵr yn gwella o amgylch arfordir Cymru, anogwyd awdurdodau lleol i ymgeisio am Wobrau’r Faner Las. Fel y rhoddwyd mwy o werth ar wobrau, datblygodd galw am gydnabod traethau gwledig lle mae ansawdd dŵr yn cyrraedd safonau’r Canllawiau Dŵr. Dim ond y safon Orfodol, nad yw mor gaeth, oedd yn ofynnol gan y Wobr Arfordir Gwledig gyfredol.

Dechreuodd Menter y Moroedd Glas ddatblygu gwobr newydd, a ddaeth i gael ei hadnabod fel y Wobr Arfordir Glas.

Green Coast LogoCynhyrchwyd rhestr o feini prawf, un debyg i restr y Wobr Arfordir Gwledig. Fodd bynnag, wedi mwy o ymchwilio, penderfynwyd, oherwydd natur y traethau gwledig anghysbell hyn, nad oedd meini prawf caeth yn ddigon hyblyg ar gyfer yr amrywiaeth fawr o draethau ac felly daeth yn gynllun sydd yn cael ei arwain gan yr amcanion.

Wedi’r cyfnod peilot yng Nghymru ym 1999 pan oedd 8 o draethau’n teilyngu’r wobr, derbyniodd y cynllun arian gan yr UE yn 2001 ac ehangodd i Iwerddon, gan weithio mewn partneriaeth â chyngor Sir Wexford.

Mae poblogrwydd y Wobr wedi tyfu ers hynny ac mae wedi derbyn arian ychwanegol Interreg IIIA gan yr UE i ehangu i siroedd eraill yn Iwerddon ac yng Nghymru gyda’r partneriaid An Taisce yn Iwerddon.