Datblygwyd y rhaglen Eco-Sgolion ym 1994 gan y Sefydliad ar gyfer Addysg Amgylcheddol (FEE) ac fe’i cyflwynwyd yn y Deyrnas Gyfunol ym 1995. 
Mae’n fenter ryngwladol sydd yn annog disgyblion i gymryd diddordeb mewn materion sydd yn ymwneud â’r amgylchedd a datblygiad cynaliadwy. Mae’n system strwythuredig iawn ar gyfer rheoli ysgolion mewn modd amgylcheddol. Yng Nghymru caiff y rhaglen ei rheoli gan Cadwch Gymru’n Daclus a’i hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Craff am Wastraff.
Mae’n adnodd dysgu sydd yn ymdrin â meysydd yn cynnwys: Sbwriel, Lleihau Gwastraff, Trafnidiaeth, Byw’n Iach, Ynni, Dŵr, Tir yr Ysgol a Dinasyddiaeth Fyd-eang. Rhoddir lle amlwg i’r disgyblion mewn gwneud penderfyniadau a gweithredu i leihau’r niwed a wna’r ysgol i’r amgylchedd. Trwy wneud hynny, mae Eco-Sgolion
yn ymestyn addysg y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth ac yn datblygu ymdeimlad o ddinasyddiaeth gyfrifol gartref ac yn y gymuned.
Daeth Baner Werdd Ewropeaidd Eco-Ysgolion, a ddyfernir i’r ysgolion sydd â’r rhaglenni mwyaf llwyddiannus, yn label eco-gydnabyddedig ac uchel ei barch mewn Addysg dros Ddatblygu Cynaliadwy. Mae’r rhaglen Eco-Sgolion yn weithgaredd hirdymor, a ailasesir ac a adnewyddir bob dwy flynedd.
Mae Eco-Sgolion ar hyd a lled y 22 Awdurdodau Lleol yng Nghymru ac maent yn cynnwys ysgolion Babanod, Cynradd, Uwchradd ac Anghenion Arbennig. Ar hyn o bryd mae mwy na 90% o ysgolion yng Nghymru wedi'i cofrestru ar raglen Eco-Sgolion.
Ewch i wefan Eco-Sgolion Cymru os ydych am gofrestru gyda’r rhaglen ac ymgeisio am wobrau: www.eco-sgolioncymru.org Mae adnoddau a deunyddiau a fydd o gymorth i’r aelodau a thrwy ymweld â’r dudalen hafan mae modd lawrlwytho’r cylchlythyr diweddaraf a chanfod gwybodaeth am ddigwyddiadau a chystadlaethau i ddod.