Mae Trefi Taclus yn fenter mewn dwy ran rhwng Cadwch Gymru’n Daclus ac awdurdod lleol Cymru ac mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Cadwch Gymru’n Daclus sydd yn gweithredu’r elfen o’r fenter sydd yn ceisio cynnwys y gymuned. Mae’n brosiect strategol sydd ar waith drwy Gymru ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol. Nod y prosiect yw gweithio’n strategol drwy alluogi pobl Cymru i ysgwyddo cyfrifoldeb am eu hamgylchedd lleol. Gwireddir hyn drwy sefydlu a datblygu grwpiau cymunedol drwy Gymru i weithio tuag at gwrdd ag anghenion eu cymuned leol drwy fabwysiadu rhannau o’u hamgylchedd lleol a gweithredu prosiectau ymarferol i’w wella.
Beth yw nod y prosiect?
Cefnogi pobl Cymru er mwyn eu galluogi i ysgwyddo cyfrifoldeb am eu hamgylchedd lleol.
Sut mae Trefi Taclus yn gweithio?
Mae gwirfoddolwyr yn ‘mabwysiadu’ ardal leol ac yn canolbwyntio ar ofalu’n gyson am y rhan honno. Anogir y cymunedau i fabwysiadu ardaloedd lle mae gwastraff ar ei waethaf a’u hadfer i’w hen ogoniant. Mae’r prosiectau a gyflawnir gan y grwpiau’n cynnwys:
- Casglu sbwriel a glanhau
- Cynnal a chadw llwybrau
- Rheoli twyni tywod
- Gosod meinciau
- Creu safleoedd picnic
- Clirio a rheoli rhywogaethau ymledol
- Gwella mynediad i’r anabl
- Datblygu gerddi a rhandiroedd cymunedol
- Cynnal amnestau gwastraff
- Rheoli cynefinoedd a bioamrywiaeth
- Gwella mynwentydd
Pam dylech ymuno â’r prosiect?
Fel aelod o grŵp byddwch yn medru datblygu eich syniadau ar gyfer gwella ansawdd eich amgylchedd lleol.
- Bydd Swyddogion Prosiect Trefi Taclus yn cael eu dynodi ar gyfer pob grŵp i gynnig cyngor a chymorth ymarferol.
- Medrwch wneud cais am grant bach i glirio costau yswiriant, offer a chyfarpar, deunyddiau, lluniaeth ysgafn etc.
- Mae hyfforddiant ar gael i wirfoddolwyr ar nifer o wahanol faterion.
- Cewch gyfle i gwrdd â grwpiau eraill i gyfnewid syniadau.
Oes gennych chi ddiddordeb?
Medrwch gymryd rhan drwy sefydlu grŵp neu drwy ymuno â grŵp sydd eisoes wedi ei sefydlu yn eich ardal.