Bydd y prosiect yn cyflogi swyddogion cymunedol penodol mewn gwahanol rannau o Gymru a’u gwaith fydd:
Denu diddordeb grwpiau cymunedol
Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar wirfoddolwyr a bydd y staff yn ymdrechu naill ai i sefydlu grwpiau cymunedol newydd neu i weithio gyda rhai sydd mewn bod, a’u hannog i fabwysiadu tir megis darnau o afon, parciau a mannau lle mae mwy na’r cyffredin o sbwriel, tipio anghyfreithlon, graffiti a thaflenni a osodwyd yn anghyfreithlon, a bod yn gyfrifol am lanhau’r tir hwnnw.
Gweithio gyda awdurdodau lleol
Mae Trefi Taclus yn darparu £1m y flwyddyn i Cadwch Gymru’n Daclus a £3m y flwyddyn i’r awdurdodau lleol. Fe fydd swyddogion cymunedol yn gweithio gyda awdurdoau lleol i gydlynu a gwneud y mwyaf o’r ddwy ffrwd cyllid. Fe fydd swyddogion yn darparu cyngor a chefnogaeth i gynghorau lleol ar lle mae gwaith cymunedol yn digwydd ac yn gweithio gyda swyddogion y cyngor i adnabod cymunedau newydd a all ddod yn rhan o’r fenter.
Cynllunio’r gweithredu
Wedi i’r ardaloedd gael eu dewis, bydd y cymunedau’n cydweithio gyda’r staff i gynllunio’r atebion arfaethedig ac i benderfynu sut yr hoffent fynd i’r afael â’r broblem. Fe fydd swyddogion yn gweithredu fel cyswllt rhwng cymunedau, awdurdodau lleol a asiantaethau eraill fel Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cyngor Cefngwlad Cymru a’r heddlu i sicrhau bod cymunedau yn cael cefnogaeth oddi wrth y awdurdod lleol ac asiantaethau eraill.
Sesiynau Glanhau Cymunedol
Bydd swyddog Cadwch Gymru’n Daclus ar y cychwyn yn gyfrifol am gydlynu’r digwyddiadau glanhau cymunedol. Bydd y swyddog yn trefnu (pob caniatâd angenrheidiol, llogi sgip, cyhoeddusrwydd) ac yn goruchwylio (sgwrs am Iechyd a Diogelwch) y digwyddiadau cymunedol hyd nes bydd y grwpiau wedi datblygu digon o sgiliau i wneud y gwaith trefnu eu hunain.
Glanhau’r mannau gwaethaf
Bydd Cadwch Gymru’n Daclus yn trefnu gwaith ar gontract i glirio’r sbwriel o’r safleoedd gwaethaf, a nodwyd gan y trigolion, lle yr ystyrir ei bod yn anaddas i’r gwaith gael ei wneud gan wirfoddolwyr. Bydd y penderfyniad o ddefnyddio contract sbwriel yn cael ei wneud ar ôl ystyried yr holl opsiynau eraill sydd ar gael, yn cynnwys yr awdurdod lleol.
Digwyddiadau Tîm Taclus gyda phroffil uchel i godi ymwybyddiaeth
Prif nod y digwyddiadau fydd denu diddordeb y bobl lleol a’u hannog i sefydlu grŵp i sicrhau y cedwir yr ardal yn lân yn y dyfodol. Fe fydd angen gweithio gyda awdurdodau lleol ac eraill i wneud y mwyaf o’r digwyddiadau yma.
Gwelliannau amgylcheddol
Yn ogystal â chadw’r ardal yn ddi-sbwriel bydd y grwpiau cymunedol yn cael cefnogaeth i wneud gwaith amgylcheddol a fydd yn gwella’r amgylchedd ac yn lleihau’r sbwriel a’r gwastraff sydd yno. Bydd y staff yn cynorthwyo’r gwirfoddolwyr i ymgymryd â gwaith gwella lle bynnag bydd gwaith felly’n angenrheidiol. Gallai hyn fod yn waith plannu, creu cynefinoedd, gwella mynedfeydd a gwelliannau eraill i’r ardal.
Trawsnewid ardaloedd a anwybyddwyd a phrosiectau mawr i’w gwella
Bydd y prosiect yn gweithio gyda chymunedau i droi ardaloedd yn asedau cymunedol gwerthfawr. Gall y prosiectau gynnwys creu gerddi cymunedol, prosiectau diwylliannol/celf, gwelliannau i fynedfeydd a gwelliannau i gynefinoedd/bioamrywiaeth. Fe fydd swyddogion yn gweithio fel cyswllt rhwng cymunedau a awdurdod lleol i sicrhau bod cymunedau yn cael cefnogaeth yr awdurdod lleol.