Keep Wales Tidy / Cadwch Gymru'n Daclus

What's your Story?

Gawn ni glywed eich hanes?

Rydym yn awyddus i gael gwybod sut mae gweithio gyda Cadwch Gymru’n Daclus wedi effeithio’n dda ar eich bywyd!

Llangattock Spring Litter Pick 1Mae gwella ansawdd eich amgylchedd lleol yn ffordd dda iawn o ddod â chymunedau ynghyd, ac mae trawsnewid ardaloedd a anwybyddwyd yn medru bod yn ffordd o ddarparu adnodd ar gyfer y gymuned ac yn help i leihau’r ofn o droseddu. Mae gwaith amgylcheddol ymarferol yn dda iawn ar les eich iechyd a’r amgylchedd, a phan mae gordewdra, ymddygiad gwrthgymdeithasol, ailgylchu a newid yn yr hinsawdd mor amlwg yn y newyddion mae gwaith Cadwch Gymru’n Daclus yn bwysig ac yn berthnasol iawn.

Rydym yn casglu ffeithiau a ffigurau ynglŷn â faint o wastraff a gasglwyd a faint o wirfoddolwyr a fu’n gwneud eu gwaith, ond eich stori bersonol chi fydd yn ein helpu i hyrwyddo manteision ehangach yr hyn yr ydym yn ei wneud.

Gyda chi yr ydym yn cydweithio a’n gobaith yw bod y prosiectau’r ydym yn eich helpu i’w cynnal yn cael effaith gadarnhaol arnoch chi, a byddem yn hoffi gwybod sut.

Hanesion grwpiau o amgylch Gymru

Bu nifer o grwpiau Trefi Taclus yn llwyddiannus yng Ngwobrau Cymru Daclus eleni. Dyma eu hanesion -

Pembroke PondsCodwyr Sbwriel Pyllau a Nentydd Penfro (Sir Benfro)
Enillwyr Gwobr Goffa Bernard Jones – Categori Gwella Afonydd

Yr wyf yn wir fwynhau fy nheithiau misol i Benfro i helpu i gadw’r dref yn nhaclusach nac yr oedd pan ddechreuom. Yn ogystal â bod yn gyfle i adael y tŷ, mae’n rhoi’r cyfle i mi hefyd gwrdd â phobl a bod yn aelod gweithredol o’r gymuned. Mae gwirfoddoli’n rhoi cyfle i mi ymateb i’m casineb o sbwriel, yn arbennig bonion sigaréts ar y llawr!! (Rosemary Dunphy)

Dechreuais helpu i godi sbwriel am na allwn oddef gweld yr holl sbwriel a oedd yn cael ei daflu i Nant y Tir Comin. Yr oeddwn yn poeni beth fyddai ymwelwyr yn ei feddwl o Benfro wrth iddynt barcio eu ceir yn y maes parcio. Mae cael gwared ar sbwriel yn rhoi boddhad mawr i mi ac mae’r symiau o sbwriel yn ymddangos yn llai yn ystod y flwyddyn. Mae’n rhaid i ni barhau gyda’n hymweliadau misol i’r Nant a Phyllau Penfro oherwydd mae’n wir fod sbwriel yn magu sbwriel. (Jean Hambly)

Y rhesymau pam yr wyf yn parhau i drefnu, cynnal asesiadau risg, a llwytho a dadlwytho fy nghar bach gydag offer sbwriel, bagiau, bocsys a bwcedi? Oherwydd mae’r gwirfoddolwyr yn dychwelyd bob mis - Mae’n rhywbeth y gallaf ei wneud ‘i roi rhywbeth yn ôl' - Mae’r gwirfoddolwyr yn wych ac rydym yn cael hwyl, yn ogystal â gweithio’n galed - Mae gosod esiampl yn bwysig - Yn syml, mae’n gwneud i’r tair ardal edrych yn llawer gwell - wel am rywfaint o amser beth bynnag - Mae casglu gwydr a photeli sydd wedi torri yn helpu i leihau’r risg o ddamweiniau i blant a chŵn ac ati - Rydym yn cael cymorth da iawn gan Cadwch Gymru’n Daclus ac mae’r Awdurdod Lleol yn llawer mwy rhagweithiol yn yr ardal hefyd. Mae’n gwneud i’r hyn a wnawn ymddangos yn werthfawr - Mae prosiect Trefi Taclus PCC yn ein cefnogi nawr, felly mae hyn yn ein hannog hefyd i wneud mwy. Diolch i chi hefyd Mari am eich help gyda’r grant am offer a phopeth arall. (Nikki Anderson)

Rwyf yn mwynhau clirio sbwriel er fy mod yn teimlo’n flin gyda’r plant sy’n ei ollwng, mae’n achlysur cymdeithasol yn yr awyr iach ac mae’n brofiad dymunol cwrdd â’r holl wirfoddolwyr eraill. Mae gennyf deimladau cryf ynglŷn â chŵn yn baeddu, a hoffwn weld ffyrdd gwell o orfodi perchenogion i fod yn fwy cyfrifol a chlirio ar ôl Pero. Yr wyf yn teimlo cywilydd pan fydd cymaint o ymwelwyr [yn arbennig eleni] yn cerdded o amgylch y pyllau a bod yn rhaid iddynt osgoi’r baw ci ar y llwybrau cerdded. (Jacky)

Yr wyf yn dod i’r sesiynau codi sbwriel ym Mhenfro oherwydd rwyf am roi rhywbeth yn ôl i’r amgylchedd, yn arbennig o ran lles anifeiliaid sy’n byw yn yr ardal, fel nad yw bagiau plastig, poteli a mathau eraill o sbwriel yn eu niweidio. Rwyf hefyd am i’r dref yr wyf yn byw ynddi edrych yn fwy trwsiadus ar gyfer y trigolion ac ymwelwyr, fel nad oes cywilydd gennyf ym Mhenfro, yn ogystal â gosod esiampl hwyrach i’r rhai nad ydynt yn ymddangos yn poeni am yr amgylchedd. Yn olaf, mae codi sbwriel yn cynnig cyfle i mi gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol, sy’n dda i’r enaid. (Irena Kruszona)

Dyma rai o’r rhesymau pam fy mod yn cymryd rhan yn y gwaith codi sbwriel. Mae’n faes lle gallaf wneud gwahaniaeth gweladwy ar unwaith mewn ffordd syml - mae eisoes yn gwneud gwahaniaeth i ymddangosiad Penfro - mae’n hwyl ac mae’n ffordd dda o gael ymarfer corff ysgafn - mae’n rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned lle cefais fy ngeni a’m haddysgu, yr wyf wedi dychwelyd i fyw ynddi - fel Ymddiriedolwr Cadwch Gymru’n Daclus mae’n bwysig fy mod yn cefnogi’r sefydliad ym mha bynnag ffordd y gallaf. (John Hogg)