Keep Wales Tidy / Cadwch Gymru'n Daclus

Mwy o wybodaeth

Grantiau Cymunedol Trefi Taclus

Grant infoTrwy’r Prosiect Trefi Taclus, mae Cadwch Gymru’n Daclus yn medru cynnig cymorth ariannol i grwpiau cymunedol sydd yn dangos ymroddiad i brosiectau amgylcheddol a fydd yn adfer eu hardal leol i’w hen ogoniant. Mae’r grantiau hyn ar gael ar gyfer cost:

  • Offer a chyfarpar arall
  • Lluniaeth
  • Codi ymwybyddiaeth
  • Hyfforddiant

Sut i wneud cais am grant

  • Cyn gwneud dim byd, siaradwch â’ch Swyddog Prosiect Trefi Taclus.
  • Cwblhewch y ffurflen gais ac anfonwch hi at eich Swyddog Prosiect. Bydd y swyddog yn ychwanegu sylwadau ac yn ei hanfon at Bwyllgor Grantiau Cadwch Gymru’n Daclus.
  • Mae’r Pwyllgor Grantiau’n cyfarfod unwaith y mis i weld a yw’r ceisiadau wedi eu cwblhau’n gywir a bod y ceisiadau’n cwrdd â’r holl feini prawf.

Os am fwy o wybodaeth am gynllun grantiau bach Trefi Taclus neu help a chyngor i wneud cais am grant cysylltwch â’r Swyddog Prosiect Trefi Taclus lleol neu anfonwch e-bost at tidy.towns@keepwalestidy.org