Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn ymdrechu i wneud Cymru’n lle Glân, Diogel a Thaclus i bawb. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth agos ag Awdurdodau Lleol, ysgolion a grwpiau cymunedol er mwyn annog y cyhoedd i ymddiddori a chymryd rhan. Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn rhedeg nifer o raglenni ar hyn o bryd, o helpu cymunedau lleol i wella eu hardaloedd, i addysgu plant am bwysigrwydd parchu’r amgylchedd. Rydym hefyd yn gweinyddu gwobrau i draethau a marinas sydd yn cyrraedd safon uchel o ran glendid, ynghyd ag Wythnos Cymru Daclus sydd yn annog pawb i dorchi eu llewys a gwneud eu rhan.
Rydym yn ymwneud â mwy na dim ond sbwriel a gwastraff a’n nod yw annog y cyhoedd i ysgwyddo cyfrifoldeb am eu hamgylchedd drwy sicrhau bod y cyfarpar iawn ar gael iddynt a’u bod yn cael eu haddysgu ar gyfer y gwaith.
Mae mwy o fanylion isod am y gwaith eang a wnawn i helpu i wneud Cymru’n lle glanach a gwyrddach i fyw.

Menter a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yw Trefi Taclus ac mae’n cydweithio’n agos gyda chymunedau i wella eu hamgylchedd lleol. Mae swyddog Trefi Taclus ym mhob Awdurdod Lleol i’ch helpu i sefydlu grŵp cymunedol neu roi gwybodaeth i chi am grŵp sydd eisoes wedi ei sefydlu. Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn chwilio o hyd am wirfoddolwyr a fydd yn barod i dorchi eu llewys a gweithio i helpu i wella eu cymdogaeth. Bydd offer ac arbenigedd ar gael gan staff Trefi Taclus i’ch helpu i weithio yn eich ardal leol, boed yn waith casglu sbwriel, amnestau gwastraff neu ddatblygu gerddi cymunedol.
Os ydych yn byw ym Mlaenau’r Cymoedd (Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen) gall grantiau o hyd at £1000 fod ar gael i chi i’ch helpu i wella eich ardal drwy ein cynllun Cymunedau Glanach a Gwyrddach. Mae cynllun cyffelyb ar gael ar gyfer y rhai sydd yn byw yn yr ardaloedd hynny dan y rhaglen Cymunedau Gwyrdd. 
Eco-sgolion
Menter yw
Eco-Sgolion i annog plant a phobl ifanc i feddwl am eu hamgylchedd ac i ymddiddori mewn materion amgylcheddol. Mae’r rhaglen Eco-Sgolion yn cyflwyno’r Faner Las, sef gwobr a gydnabyddir yn rhyngwladol, i ysgolion sydd yn llwyddo i gyflawni meini prawf penodol ynglŷn â
- Sbwriel
- Lleihau Gwastraff
- Trafnidiaeth
- Byw’n Iach
- Ynni
- Dŵr
- Tir Ysgol
- Dinasyddiaeth Fyd-eang.

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn gweithredu nifer o wobrau arfordir ar gyfer traethau a marinas Cymru. Cyflwynir y Wobr Arfordir Glas, y Wobr Glan Môr a Gwobr Y Faner Las i draethau a marinas sydd yn cydymffurfio â’r canllawiau llym o ran glendid . Pwrpas y gwobrau hyn yw hyrwyddo Cymru fel cyrchfan twristiaeth arfordirol mewn modd a fydd yn dod â budd economaidd ac amgylcheddol i bobl Cymru.
Mae ein tîm Ansawdd yr Amgylchedd Lleol yn deall y gall gwella ansawdd yr amgylchedd lleol gyfrannau mewn nifer o feysydd megis ansawdd bywyd pobl, iechyd y cymunedau a’r gymuned fusnes. Rydym yn gyson yn mynd ati i ganfod ffyrdd arloesol o fynd i’r afael â’r problemau sydd yn gysylltiedig â gwella ansawdd yr amgylchedd lleol. Fel rhan o’n gwaith rydym yn ceisio dylanwadu ar sefydliadau eraill i ddatblygu ymagweddiad cyfrifol tuag at sbwriel ac ansawdd yr amgylchedd lleol. Mae hyn yn aml yn golygu ymgynghori ynglŷn â dogfennau, cynlluniau a pholisïau sefydliadau eraill megis rhai Llywodraeth Cynulliad Cymru.