Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi bod yn datblygu polisïau ynglŷn â materion sydd yn effeithio ar ein gwaith. Rydym wedi sefydlu polisïau a fyddai, pe baent yn cael eu gweithredu, yn helpu i gadw ein gwlad yn ddiogelach, yn lanach ac yn daclusach. Er mwyn paratoi’r papurau hyn mae angen i’n Tîm Amgylchedd Lleol ymchwilio i ganfod maint y broblem dan sylw, y cefndir perthnasol i’r polisi ac arferion da cyn llunio argymhellion.
Litter and fly-tipping on private land
Litter on private land
This paper attempts to cover the main issues around large accumulations of litter and fly-tipping on privately owned land, as opposed to publicly owned land. The paper considers the potential impact on local environmental quality, the legislation in place to deal with the problem and other options adopted by local authorities and the Environment Agency.
Litter on private land: Litter on private land.pdf (620k)
Sbwriel smygu
Sbwriel smygu, 2006
Mae sbwriel sydd yn gysylltiedig â smygu’n cynnwys pacedi sigaréts a’r ffoil a’r seloffen sydd o’u cwmpas, bagiau a phapur tybaco, tanwyr sigaréts, matsis, bocsys matsis, a bonion sigaréts. Mae arolygon Cadwch Gymru’n Daclus wedi dangos mai sbwriel smygu yw’r math o sbwriel sydd bob amser fwyaf cyffredin ar strydoedd Cymru, a’i fod yn bresennol ar hyd at 98.8% o’r strydoedd mewn awdurdod lleol. Mae’r papur hwn yn cynnig ffyrdd o weithredu i’r awdurdodau lleol a’r diwydiant tybaco. Sylwer bod y papur hwn wedi ei ysgrifennu cyn i’r gwaharddiad ar smygu ddod i rym yn 2007.
Sbwriel smygu, 2006: Smoking Related Litter.pdf (770k)
Cerbydau Gadawedig
Abandoned Vehicles, 2009
In this paper Keep Wales Tidy notes that the number of abandoned vehicles seems to be dropping; nevertheless it recognises the many impacts that abandoned vehicles have on neighbourhoods. The paper outlines relevant legislation and discusses the various ways in which local authorities have dealt with abandoned vehicles. It suggests that local authorities are now well placed to deal with incidents of abandoned vehicles but suggests that national data should be standardised and included in the Welsh Assembly Government’s Towards Zero Waste document.
Abandoned Vehicles, 2009: Abandoned vehicles policy paper (for consultation).pdf (386k)
Sbwriel Bwyd Parod
Spwriel bwyd parod 2008
Mae arolygon Cadwch Gymru’n Daclus wedi dangos bod mwy a mwy o sbwriel bwyd parod ar 17.2% o strydoedd Cymru. Yn y papur eglurir pam bod y cynnydd hwn yn digwydd, disgrifir goblygiadau’r sbwriel hwnnw ac fe archwilir y gwahanol fentrau sydd wedi eu sefydlu i ymdrin â’r mater. Yna nodir cyfres o argymhellion i sicrhau gwelliant yn y dyfodol. Mae’r argymhellion ar gyfer llywodraeth leol a’r diwydiant bwyd parod.
Spwriel bwyd parod 2008: Fast Food Litter Policy Paper.pdf (495k)
Sbwriel Balwn
Spwriel Balwnau
Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi gwneud ymchwil i’r broblem sydd yn gysylltiedig â sbwriel balwnau a’r weithred fwriadol o ryddhau llawer o falwnau i’r awyr ar yr un pryd. Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn credu bod angen gwneud mwy o waith i fynd i’r afael â’r broblem hon, yn arbennig adolygiad o’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Spwriel Balwnau: Balloons.pdf (517k)
Biniau Ailgylchu
Biniau Ailgylchu
Mae’r papur hwn yn cydnabod bod llawer mwy o ailgylchu sbwriel cartref yng Nghymru yng ystod y blynyddoedd diwethaf ond mae’n cydnabod hefyd bod llai o ailgylchu yma nag mewn llawer o wledydd yn Ewrop. Noda’r papur hwn nad yw diwylliant ‘ailgylchu wrth fynd’ wedi datblygu’n iawn yng Nghymru ac nad oes Strategaeth Genedlaethol ar gyfer darpariaeth ailgylchu ar y strydoedd. Cafwyd nifer o fentrau unigol ond ychydig iawn o rannu arferion da a ddigwyddodd rhwng gwahanol sefydliadau. Yna mae’r papur yn tynnu sylw at fentrau sydd yn bodoli ac yn awgrymu sut y gallem ddatrys rhai o’r problemau sydd yn gysylltiedig ag ailgylchu wrth fynd.
Biniau Ailgylchu: Recycling Bins policy paper.pdf (782k)
Sbwriel cyffuriau
Sbwriel cyffuriau, 2007
Wrth gyfeirio at ‘sbwriel cyffuriau’ mae Cadwch Gymru’n Daclus yn golygu’r nodwyddau, chwistrelli ac offer miniog sydd yn cael eu taflu ar ôl eu defnyddio i gymryd cyffuriau anghyfreithlon yn fewnwythiennol. Nid yw sbwriel cyffuriau’n broblem eang yng Nghymru ond mae’r papur hwn yn dangos bod problem "gudd" y dylid mynd i’r afael â hi oherwydd gall dod o hyd i nodwyddau a chwistrelli arwain at ganlyniadau difrifol.
Sbwriel cyffuriau, 2007: Drug Related Litter Policy Paper.pdf (316k)
Dylunio ar gyfer Amgylchedd Diogel, Glân a Thaclus
Dylunio ar gyfer Amgylchedd Diogel, Glân a Thaclus, 2007
Yn y papur hwn mae Cadwch Gymru’n Daclus yn cydnabod pwysigrwydd dylunio da er mwyn gwella ansawdd bywyd pobl a lleihau’r diraddio sydd yn digwydd yn sgil sbwriel, gosod taflenni’n anghyfreithlon a graffiti. Ar sail archwiliad i’r polisi cyfredol a’r cyfarwyddyd ar ddylunio ar lefel leol a chenedlaethol daeth Cadwch Gymru’n Daclus i’r casgliad nad oes digon o sylw’n cael ei roi i gyfraniad dylunio tuag at atal y math hwn o ddiraddio. Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn credu y gallai eu hargymhellion arwain at welliannau, arbed arian ac adnoddau a chyfrannu tuag at greu cymunedau mwy cynaliadwy. Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi ymhelaethu ar y papur hwn drwy gynhyrchu adroddiad llawn a ariannwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Dylunio ar gyfer Amgylchedd Diogel, Glân a Thaclus, 2007: Design Policy Paper.pdf (420k)
Sbwriel cerbydau
Sbwriel cerbydau, 2006
Yn y papur hwn mae Cadwch Gymru’n Daclus yn amlinellu gwahanol oblygiadau sbwriel a deflir allan o gerbydau. Roedd yr ymchwil hwnnw’n cynnwys cysylltu â chynrychiolwyr o bob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru er mwyn ceisio deall y gwahanol ddulliau gorfodaeth a ddefnyddir i atal y broblem. Mae’r papur yn cynnwys argymhellion ynglŷn â mynd i’r afael â’r broblem ac yn ymwneud â chysondeb dulliau, deddfwriaeth, ymgymerwyr statudol ac ymgyrchoedd.
Sbwriel cerbydau, 2006: Vehicle litter.pdf (574k)
Graffiti
Graffiti
Mae graffiti’n effeithio ar 8.9% o’r strydoedd a arolygwyd yng Nghymru ac mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi amcangyfrif bod y gost o glirio’r graffiti yng Nghymru oddeutu £1miliwn y flwyddyn. Mae’n effeithio hefyd ar y ffordd y mae pobl yn gweld ardaloedd a gall arwain at ostyngiad mewn buddsoddi. Mae’r papur hwn yn amlinellu enghreifftiau o fentrau a fu ar waith yn y DU a thu hwnt i geisio lleihau graffiti. Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi dod i’r casgliad mai cynlluniau i glirio graffiti ar unwaith ynghyd â gorfodi a dal y rhai sydd wrthi, yn arbennig cynlluniau gwobrwyo, yw’r dulliau mwyaf effeithiol o leihau graffiti ar ein strydoedd.
Graffiti: Graffiti paper.pdf (392k)
Red Elastic Bands
Red elastic bands
In this paper, Keep Wales Tidy establishes the extent of the issue of littered red bands on the streets of Wales and attributes them primarily to the Royal Mail. The paper describes the implications that littered bands have and suggests a key consideration for local authorities may be the impact on general street cleanliness. Keep Wales Tidy makes clear that the act of dropping such bands is a littering offence, liable to prosecution and points to alternative actions to tackle the problem.
Red elastic bands: Red Elastic Bands.PDF (358k)
Bagiau plastig
Bagiau plastig 2006
Defnyddir oddeutu 490 miliwn o fagiau plastig yng Nghymru bob blwyddyn ac mae goblygiadau hynny’n eang. Mae’r papur hwn yn amlinellu sut y mae’r lobi o blaid bagiau plastig wedi gwrthod yn gyson â derbyn gymaint yw’r problemau a achosir gan fagiau plastig. Dymuniad Cadwch Gymru’n Daclus yw sicrhau bod llai o fagiau plastig yn cael eu taflu, a hynny, o ddewis, trwy fynd yn ôl i ddefnyddio bagiau y gellir eu defnyddio dro ar ôl tro. Mae’r ddogfen hon yn egluro sut y byddem yn cyflawni’r nod hwnnw.
Bagiau plastig 2006: Plastic Bags.pdf (634k)
Caniau a photeli
Caniau a photeli, 2006
Y ddogfen hon yw polisi Cadwch Gymru’n Daclus mewn ymateb i broblem caniau a photeli diodydd sydd yn cael eu taflu’n sbwriel. Mae’n dangos faint y mae’r sbwriel hwnnw’n cyfrannu tuag at gost glanhau strydoedd Cymru a bod y math hwn o sbwriel yn ddieithriad yn cymryd llawer iawn o amser i fioddiraddio, ac felly’n fygythiad parhaus i fywyd gwyllt Cymru. Yn y papur hwn mae Cadwch Gymru’n Daclus yn ymdrin â’r angen am addysgu a gorfodi ar y pwnc ac mae’n dadlau am gynllun blaendal Cenedlaethol ar ganiau a photeli.
Caniau a photeli, 2006: Cans and Bottles.pdf (5312k)
Baw cŵn
Baw cŵn
Mae baw cŵn yn effeithio ar 14% o strydoedd Cymru ac mae’n gyson yn un o’r materion y mae’r Cynghorau’n derbyn y nifer fwyaf o gwynion yn ei gylch. Yn y papur hwn mae Cadwch Gymru’n Daclus yn ystyried pwy sy’n gyfrifol am ei glirio, y cefndir deddfwriaethol ac arferion da. Daw i’r casgliad mai addysgu’r cyhoedd a gorfodi yw’r unig fesurau a fydd yn lleihau’r baw cŵn ar ein strydoedd yn y pen draw.
Baw cŵn: Dog Fouling Position Paper.pdf (273k)
Sbwriel gwm cnoi
Sbwriel gwm cnoi
Mae problem staeniau gwm cnoi yn y newyddion yn gyson. Mae gwaredu gwm cnoi yn y modd anghywir yn achosi problem sbwriel. Mae’r ddogfen hon yn cynnwys dewisiadau polisi Cadwch Gymru’n Daclus ynglŷn â gwm cnoi, ynghyd ag argymhelliad y dylid creu datganiad polisi clir i gefnogi treth gwm cnoi fel y ffordd fwyaf effeithiol o fynd i’r afael â’r broblem.
Sbwriel gwm cnoi: Chewing Gum.pdf (2351k)
Cliciwch ar unrhyw bolisi uwchben i gael mwy o wybodaeth.
Prosiectau Penodol
O bryd i’w gilydd mae Cadwch Gymru’n daclus yn cyflawni prosiectau ar destunau penodol. Gyda’r prosiect mwyaf ddiweddar, gwelwyd creadigaeth canllaw arferion da, Dylunio ar gyfer Amgylchedd Glân, Diogel a Thaclus. Roedd angen gwneud hwn oherwydd bod gwybodaeth cyfyngiedig ar gael ar sut mae dyluniad , dodrefn ar y stryd, darpariaeth biniau a’r math o ddeunydd a ddefnyddiwyd i wneud palmantau yn gallu effeithio ar ôl-ofal ein strydoedd. Gellir darllen y daflen gryno yma a’r ddogfen llawn yma.
Cynllun ar y cyd rhwng Cadwch Gymru’n Daclus a Sustrans yw’r Prosiect Ansawdd Amgylcheddol y Rhwydwaith Seiclo Cenedlaethol er mwyn datblygu ffyrdd i gynnal arolygion amgylcheddol, naillai ar feic neu ar droed. Mae’r data hwn yna yn cael ei fewnbynnu i’r cynllun Trefi Taclus er mwyn trefnu glanhau’r adrannau sydd yn peri problemau.
Mae angen i wirfyddolwyr gweithio gyda’r swyddog prosiectau er mwyn datblygu technegau arolygu effeithiol, gan gynnwys:
- Casglu data i fesur yr amlder o sbwriel yn cael ei ollwng, gwehilion, tipio, graffiti ayyb.
- Defnyddio systemau GPS a mapiau OS i gydnabod lleoliadau penodol
- Mewnbynnu data ar gyfrifiadur
- Gweithio gyda systemau mapio GIS
- Monitro parhaol ar safonnau amgylcheddol
Am ragor o wybodaeth ar y prosiect hwn, cysylltwch â Richard Barrett:
richard.barrett@keepwalestidy.org