Keep Wales Tidy / Cadwch Gymru'n Daclus

Swyddfa'r Wasg

Twîts diweddaraf

Swyddfa'r Wasg

RSS RSS Feed

Croeso i swyddfa’r wasg Cadwch Gymru’n Daclus. Yma medrwch ddarllen y datganiadau diweddaraf i’r wasg genedlaethol ynghyd ag eitemau o newyddion.

Rydym bob amser yn falch o fedru helpu gydag unrhyw ymholiadau gan y wasg, cyflwyno gwybodaeth neu fynegi barn.

Cysylltwch â Wynne Williams, Rheolwr Cyfathrebu, rhif ffôn 07824 504791 / 029 2072 6993

Cadwch Gymru'n Daclus

Cymru yw'r lle gorau am draethau

9 Mehef 2010

Er mwyn bod yn gymwys i godi baner felen a glas y Wobr Glan Môr rhaid i’r traethau fod yn cwrdd â meini prawf llym o ran yr adnoddau ar y tir ac ansawdd y dŵr. Mae 173 o draethau drwy’r DG wedi bodloni panel o feirniaid ac mae 75% o’r rheini yng Nghymru ar hyd y 750 o filltiroedd o arfordir - ac mae hynny gymaint ag a fu erioed.
Hwyl yn yr Haul!

Hwyl yn yr Haul!

25 Mai 2010

Bu'r tywydd poeth penwythnos hwn yn anfon miloedd i draethau a pharciau prydferth Cymru ond cafwyd eu gadael yn eu stad naturiol? Mewn ymgais i addysgu torheulwyr ynglŷn â pheryglon gadael sbwriel, aeth tîm amgylcheddol DACLUS Sandfields Aberafan i Draeth Aberafan i'w lanhau.
Cadwch Gymru'n Daclus

Bendith i bencampwyr

24 Mai 2010

Gwobrwyir arwyr a phencampwyr fel arfer gyda medalau, ond bydd menter newydd i’w lansio gan Gadwch Cymru’n Daclus yn rhoi rhywbeth gwahanol i ‘arwyr’: pecynnau i’w helpu glanhau eu hardal leol.
Canmoliaeth ryngwladol i draethau a marinas Cymru

Canmoliaeth ryngwladol i draethau a marinas Cymru

11 Mai 2010

Ugain mlynedd yn ôl, pan gyhoeddwyd enwau enillwyr gwobr y Faner Las am draethau a marinas o’r safon uchaf, dim ond un traeth yng Nghymru oedd wedi medru cwrdd â’r safonau rhyngwladol llym. Erbyn heddiw mae cymaint â 45 o draethau a phum marina wedi llwyddo i gyrraedd y safon.
Mwy o draethau Cymru'n haeddu'r wobr

Mwy o draethau Cymru'n haeddu'r wobr

12 Ebr 2010

Er pan lansiwyd y Wobr Arfordir Glas dair blynedd ar ddeg yn ôl mae’r wobr wedi datblygu’n un sydd yn arwydd rhyngwladol o ragoriaeth amgylcheddol ac eleni roedd 50 o draethau Cymru’n cwrdd â’r meini prawf llym, nifer fwy nag erioed o’r blaen. Cyflwynwyd y wobr yng Nghymru ym 1997 gan Cadwch Gymru’n Daclus, yr ymgyrchwyr amgylcheddol. Mae’n cydnabod y traethau sydd wedi cyrraedd y safonau amgylcheddol uchaf gyda dŵr ymdrochi o’r ansawdd gorau, ond sydd heb yr isadeiledd sydd yn angenrheidiol i gwrdd â’r safonau ar y tir ac a osodir ar gyfer gwobrau eraill cenedlaethol a rhyngwladol i draethau.
Cadwch Gymru'n Daclus

Gwobr am fod yn wyrdd

7 Ebr 2010

Bydd pawb sydd yn cofrestru am becyn glanhau ar gyfer ein digwyddiadau Glanhau’r Cymoedd eleni yn cael cyfle i ennill gwobr ariannol mewn raffl arbennig.
Anrhydedd i Elusen Amgylcheddol

Anrhydedd i Elusen Amgylcheddol

3 Maw 2010

Cafwyd prawf eto'r wythnos hon bod gwaith caled i greu Cymru lanach a diogelach yn medru arwain at staff hapus sydd yn llawn brwdfrydedd yn eu gwaith, oherwydd cyhoeddwyd bod yr ymgyrchwyr amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus ymysg dim ond pedwar cwmni o Gymru sydd ar restr y Sunday Times o’r ‘Cwmnïau Gorau i Weithio Iddynt’.
Cadwch Gymru'n Daclus

Arian ac Yswiriant Rhad ac Am Ddim ar gael i grwpiau cymunedol!

1 Chwef 2010

Gall cadw Cymru’n daclus fod yn waith brwnt ac mae damweiniau yn digwydd o bryd i’w gilydd, ond gall unrhyw un sy’n ymuno â’r frwydr i wella eu hamgylchedd lleol gysgu’n dawel o wybod y gall yr ymgyrchwyr Cadwch Gymru’n Daclus, drwy’r fenter Trefi Taclus, nawr gynnig yswiriant rhad ac am ddim i grwpiau gwirfoddol.
Cadwch Gymru'n Daclus

Strydoedd Cymru yn lanach

28 Ion 2010

Mae canlyniadau a gyhoeddir heddiw gan yr ymgyrchwyr amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus yn dangos tra bod y rhanfwyaf o strydoedd Cymru wedi eu difetha gan sbwriel, mae newyddion da ar y gorwel. Dangosir bod yna leihad cyffredinol yn y mathau gwahanol o sbwriel a chofnodwyd gan y timau arolwg. Dangosir yr adroddiad, ‘Pa mor lân yw ein strydoedd?’, faint o sbwriel sydd ar y llawr ac ymhle.
Strydoedd gwarthus ein gwlad

Strydoedd gwarthus ein gwlad

11 Ion 2010

Ni fydd yr eira a'r rhew yn gallu cuddio'r broblem am lawer hirach... Mae arolygon eang a gynhaliwyd gan Cadwch Gymru’n Daclus, yr ymgyrchwyr amgylcheddol, wedi dangos mai sbwriel smygu yw’r math mwyaf cyffredin o sbwriel ar strydoedd a phalmentydd Cymru ac maent yn galw ar y cyhoedd i enwi’r strydoedd lle mae sbwriel smygu ar ei waethaf.

Twîts diweddaraf