Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd ac rydym yn cydymffurfio â deddfau diogelu data’r DU. Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn amlinellu sut yr ymdrinnir â’ch manylion personol ac mae’n rhan o’n Hamodau a Thelerau.
Pa fanylion a gasglwn?
Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i chi am eich enw, eich cyfeiriad e-bost, eich cyfeiriad post a’ch rhif(au) ffôn pan fyddwch yn cwblhau ffurflen, er mwyn i ni fedru cysylltu â chi os bydd angen.
Sut ydym yn defnyddio eich manylion?
Byddwn yn defnyddio ac yn cofnodi unrhyw ddata personol amdanoch yn unol â deddfwriaeth diogelu data cyfredol ac yn unol â’r Polisi Preifatrwydd hwn. Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwn gennych i helpu gydag unrhyw broblemau sydd gennych mewn perthynas â’r wefan hon neu y byddwn yn defnyddio’ch manylion personol i gysylltu â chi, at bwrpas cadw cofnodion, ac ar y cyd â manylion pobl eraill (ac felly’n ddienw) at ddibenion ymchwil i’r farchnad, i dracio gweithgaredd ar ein safle, i gyhoeddi tueddiadau a/neu i wella defnyddioldeb a chynnwys.
Mae’n bosibl y defnyddiwn gwmnïau eraill i ddarparu gwasanaethau ar ein rhan, yn cynnwys pecynnu, postio a delifro, ateb cwestiynau cwsmeriaid am gynnyrch neu wasanaethau, anfon deunydd drwy’r post a negeseuon e-bost a dadansoddi data. Ni fyddwn yn cyflwyno i’r cwmnïau hynny unrhyw wybodaeth ond yr hyn a fydd yn angenrheidiol arnynt i gyflwyno’r gwasanaeth ac fe’u gwaherddir rhag defnyddio gwybodaeth at unrhyw ddiben arall.
Nid ydym yn gwerthu, masnachu na rhentu eich manylion personol i eraill (heb i chi fod wedi rhoi eich caniatâd i ni roi eich enw a’ch cyfeiriad i gwmnïau yr archwiliwyd eu cefndir).
Cwcis
Mae cwcis yn ffeiliau testun bychain a drosglwyddir gan wefan i ddisg galed neu borwr unrhyw un sydd yn ymweld â’r wefan er mwyn cynyddu swyddogaethau, neu i olrhain defnydd o’r wefan. Nid ydym yn defnyddio cwcis i gywain gwybodaeth bersonol megis enw neu gyfeiriad e-bost. Er mwyn mesur effeithioldeb ein presenoldeb ar y we, mae’n bosibl y bydd Cadwch Gymru’n daclus yn defnyddio cwcis i ganfod y rhai sydd yn ymweld â’r wefan fwy nag unwaith a pha lwybrau a ddefnyddir gan ymwelwyr i lywio o’i chwmpas. Mae’r holl wybodaeth a gesglir yn cael ei chronni a’i chadw’n ddienw.
Mae’r defnydd o gwcis yn arferiad safonol ar lawer o wefannau. Os nad ydych am dderbyn cwcis, neu os ydych am gael eich hysbysu pan osodir rhai ar eich cyfrifiadur, mae modd gosod eich porwr i wneud hyn, a bwrw bod y gallu yn cael ei gynnig gan eich porwr.