Rheolir mynediad at ein Gwefan a’r defnydd ohoni, ynghyd â phrynu a gwerthu ar y wefan gan y telerau ac amodau defnyddio a’r telerau ac amodau busnes a nodir isod.
Trwy ddefnyddio’r Wefan, rydych yn cytuno i dderbyn y telerau ac amodau hyn. Os nad ydych am dderbyn y telerau ac amodau hyn, gofynnir i chi beidio â defnyddio’r Wefan hon.
Gweithredir y Wefan hon gan ei pherchnogion, Cadwch Gymru’n Daclus, sydd â’i swyddfa gofrestredig yn 33-35 Heol yr Eglwys Gadeiriol, Caerdydd, CF11 9HB.
Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn Sefydliad Elusennol wedi ei gofrestru yn y DU, Rhif: 1082058
Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn cynnig mynediad i’r wefan hon ar sail ‘yr hyn sydd ar gael’ ac nid yw’n gwneud unrhyw sylwadau na gwarant o unrhyw fath mewn cysylltiad â’r wefan hon na’i chynnwys ac yn ymwrthod ag unrhyw sylwadau neu warantau o’r fath. Mae Cadwch Gymru’n Daclus hefyd yn ymatal rhag gwneud unrhyw sylwadau neu warantau am gywirdeb, cyflawnrwydd yr wybodaeth a’r lluniau cysylltiedig a gyhoeddir ar y wefan hon, nac am eu haddasrwydd at unrhyw ddiben. Gall yr wybodaeth ar y wefan hon fod â gwallau technegol neu deipograffaidd. Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn ymwrthod yn benodol ag unrhyw atebolrwydd am y fath wallau ym mha ffordd bynnag y’i codir hyd eithaf yr esempt a ganiateir o dan y gyfraith.
Ni fydd gan Cadwch Gymru’n Daclus, na’i gyfarwyddwyr, ei gyflogeion na’i gynrychiolwyr eraill, unrhyw atebolrwydd am golled na niwed a godir yn sgil defnydd o’r wefan hon neu mewn cysylltiad â hynny. Mae hyn yn gyfyngiad cyflawn ar atebolrwydd sydd yn berthnasol i unrhyw niweidiau o unrhyw fath yn cynnwys iawndal digolledi, uniongyrchol, anuniongyrchol neu ôl-ddilynol, colli data, incwm neu elw, colli eiddo neu niwed iddo, neu hawliadau trydydd parti heb unrhyw gyfyngiad.
Er gwaethaf hynny, nid yw’n fwriad i’r un o’r eithriadau na’r cyfyngiadau uchod yn y cymal hwn gyfyngu ar atebolrwydd am farwolaeth neu anafiadau personol sydd yn deillio o’n esgeuluster ni neu esgeuluster ein cyflogeion neu’n hasiantau.
Deunydd a Gyflwynwch i Ni
Os anfonwch syniadau, sylwadau, cwestiynau, data, lluniau neu ddeunydd cyffelyb atom ("y Cyflwyniadau") i’r Wefan , ystyrir y rhain fel rhai nad ydynt yn gyfrinachol a bydd yr hawl gennym i ddefnyddio’r Cyflwyniadau neu eu datgelu mewn unrhyw ffordd, heb fod yn atebol i chi a heb eich hysbysu. Ni ddylai’r Cyflwyniadau nac unrhyw ddeunydd arall a anfonwch i’r Wefan fod yn dramgwyddus, yn bornograffig, yn ddifenwol, yn gableddus, yn anghyfreithlon nac yn debygol o dorri unrhyw ddeddf berthnasol, boed yn sifil, yn droseddol neu’n grefyddol, nac yn cynnwys unrhyw ddeunydd o’r fath. Yr ydych yn cytuno mai eich deunydd chi yw’r holl ddeunydd a anfonir atom ac nid yw’n gopi, yn gyflawn neu’n rhannol, o waith unrhyw drydydd parti. Gofynnir i chi beidio ag anfon unrhyw beth sydd angen ei gadw’n gyfrinachol.
Gwefannau dolen
Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys unrhyw dudalennau nad ydynt ar y wefan nac unrhyw safleoedd eraill sydd wedi eu dolennu â’r Wefan ac nid ydym wedi adolygu unrhyw wefan o’r fath. Os cysylltwch ag unrhyw dudalennau nad ydynt ar y wefan neu wefannau eraill heb sicrhau ein caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw, chi fydd yn gyfrifol am y weithred ac unrhyw ganlyniad. Ni fedrwn gael ein dal yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefan sydd wedi ei dolennu’n electronig â’r Wefan hon ac nad yw’n cael ei chynnal gennym.
Hawlfraint a Nodau Masnach
Hawlfraint Cadwch Gymru’n Daclus a’i gyrff cysylltiedig neu eu darparwyr cynnwys a thechnoleg yw holl ddyluniad, testun, graffigwaith, eu dewis a’u trefnu, yr holl gasgliadau o feddalwedd, y cod ffynhonnell sylfaenol, meddalwedd (yn cynnwys rhaglenigau) a’r holl ddeunydd arall ar y Wefan hon. CEDWIR POB HAWLFRAINT.
Rhoddir caniatâd i argraffu’n electronig mewn copïau caled ddarnau o’r Wefan hon. Gwaherddir yn llwyr unrhyw ddefnydd arall o’r deunyddiau sydd ar y Wefan, yn cynnwys atgynhyrchu at ddibenion ar wahân i’r rhai a nodir uchod, addasu, dosbarthu neu ailgyhoeddi, heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw.