 |
|
|
 |
|
 |
 |
 |
 |
 |
 |
|
 |
Croeso i Cadwch Gymru'n Daclus

Dysgwch mwy am waith Cadwch Gymru'n Daclus
»mwy

Cyngor ar sut i drefnu digwyddiad glanhau
»mwy
26 Mehefin2009 Dylunio ar gyfer Amgylchedd Glân,Diogel a Thaclus -Arweinlyfr Arferion da Nôd yr arweinlyfr yw i godi ymwybyddiaeth ymysg gweithwyr proffesiynol ym myd dylunio yngl^yn â sbwriel, graffiti a fandaliaeth, ac ychwanegu at wybodaeth y rhai sydd yn ymwneud â glanhau strydoedd a gwasanaethau strydoedd am ddylunio.
taflen gryno>>
taflen gyflawn>>
27 Ebrill Trefi Taclus yn denu 20,000 o wirfoddolwyr
Mae ymgyrch £12 miliwn i berswadio pobl i lanhau a gwella’u hamgylchedd lleol wedi denu 20,000 o wirfoddolwyr ledled Cymru yn ei blwyddyn gyntaf.
mwy>>
4 Mawrch Rhaglen i Draethau Ymdrochi sydd heb eu Dynodi
Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn chwilio am sefydliad cymwys i ymgymryd â dadansoddi samplau fel rhan o’r rhaglen i Draethau Ymdrochi sydd heb eu Dynodi. Mae’r tendr yn wreiddiol yn delio gyda’r Tymor Ymdrochi 2009 gyda’r posabilrwydd o estyniad am y ddwt flynedd ganlynol.
Dylid dychwelyd y tendr erbyn hanner dydd ar ddydd Mercher 9fed Ebrill 2009
I lawrlwytho copi o’r ddogfen tendr dilynwch y cyswllt yma.
11 Chwefror 2009 Deunydd cyhoeddusrwydd ar gael yn rhad ac am ddim!
A ydi Baw Cŵn a Stympiau Sigarét yn codi'ch gwrychyn chi?
Hoffech chi ddysgu mwy am 'Sbwriel a'r Gyfraith'?
Os felly, gall Cadwch Gymru'n Daclus fod o gymorth. Mae amryw o ddeunyddiau ymgyrchu ar gael gennym yn rhad ac am ddim i helpu grwpiau i ymdrin â materion amgylcheddol lleol
Cliciwch yma!
24 Tachwedd Lansiad Ymgyrch Sbwriel Bwyd Sydyn
Mae Cadwch Gymru’n Daclus ar fin lansio apêl genedlaethol i annog pobl i ymddwyn yn gyfrifol a rhoi’r sbwriel ar ôl bwyta pryd sydyn yn y bin neu fynd ag ef adre i’w daflu.mwy>>
18 Tachwedd Cyhoeddi Enillwyr Gwobrau Cymru Daclus
Hon fydd 18fed seremoni fawreddog flynyddol Gwobrau Cymru Daclus. Mae’n cydnabod unigolion, busnesau, ysgolion a sefydliadau gwirfoddol o bob rhan o Gymru sydd wedi gwneud ymdrech wirioneddol a pharhaol i adfer eu hamgylchedd lleol blêr i’r gogoniant a fu.
mwy>>
TYFIANT CYFLYM 50
Mae Cadw Gymru’n Daclus wedi gynnwys ymhlith y 50 o gwmniau brodorol Cymreig sydd wedi dangos y tyfiant mwyaf.Rydym yn hynod o falch o gael ei’n cynnwys a dymunwn ddiolch i bawb am gyfrannu at ei’n llwyddiant.
Trefi Taclus yn lansio cymuned ‘Facebook’..
Ymunwch a thudalen ‘facebook’ Trefi Taclus. Llwythwch eich lluniau a rhowch wybodaeth i ni am ddigwyddiadau.
Sut i godi arian drwy ddefnyddio everyclick.
Mae Cadwch Gymru’n Daclus nawr wedi gofrestru ar injan chwilota everyclick.com. Plis defnyddiwch hon pan yn bosib. Bydd yn ei’n cynorthwyo i godi arian ychwanegol
22 Mai 2008 Gwobrau Cymru Daclus 2008
Bydd 18fed seremoni wobrwyo Gwobrau Cymru Daclus yn cydnabod pobl o bob cwr o Gymru a wnaeth ymdrech wirioneddol a pharhaol i adfer i’w hen ogoniant eu hamgylchedd lleol a ddioddefodd yn sgil blerwch a difaterwchmwy>>
9 Hydref Dangoswch eich cariad at Gymru
Am wythnos ym Mehefin bydd Cadwch Gymru’n Daclus yn rhoi pryder y genedl am eu hamgylchedd lleol ar brawf a hynny drwy alw ar i bawb drwy Gymru wirfoddoli i ymuno mewn wythnos o lanhau’r mannau lle mae sbwriel ac ôl fandaleiddio ar ei waethaf mewn trefi a phentrefi ac yng nghefn gwlad...
mwy>>
02 Ebrill 2008 Ymgais i adfer balchder y genedl
Gan ei bod yn debygol y bydd bil y genedl am glirio sbwriel a gwastraff yn fuan iawn yn cyrraedd £50 miliwn, bydd menter gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a weithredir gan Cadwch Gymru’n Daclus yn cychwyn heddiw (ddydd Mercher 2il Ebrill)...
mwy>>
20 Mawrth 2008 Cyhoeddi enwau enillwyr y Wobr Glan Môr
Bydd Porth Swtan ar Ynys Môn, y lle harddaf yng Nghymru yn ôl pleidlais a gynhaliwyd unwaith, a lleoliad tŷ hir to gwellt olaf yr ynys, yn derbyn yr anrhydedd eithaf mewn seremoni ddydd Iau, 20fed Mawrth...
mwy>>
19 Mawrth 2008 Gwobrau Eco-sgolion 2008- enillwr cystadleuaeth CGD
Llongyfarchiadau i Morgan Powell (6 oed) o Ysgol Babanod Copperworks yn Llanelli am ennill cystadleuaeth ‘Peidiwch â’i adael i rywun arall…’ yn ystod Gwobrau Eco-Sgolion yn Stadiwm y Mileniwm ar y 18fed o Fawrth...
mwy>>
19 Mawrth 2008 Enillwyr Gwobrau Eco-sgolion 2008
Yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Mawrth, y 18fed Mawrth, cafodd un ar hugain o ysgolion eu gwobrwyo am fod yn ysgolion gwyrddaf Cymru...
mwy>>
17 Mawrth 2008 Pobl Cŵn yn y baw
Yn sgil dadansoddiad o arolwg damniol a wnaed yn ddiweddar gan ymgyrchwyr, mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi cychwyn yr ymgyrch fwyaf erioed i godi ymwybyddiaeth o faw cŵn, a’r enw a roddir i’r ymgyrch yw ‘Peidiwch â gadael eraill yn y baw’...
mwy>>
06 Mawrth 2008 Recriwtio-Cyfle i chwi fod yn Swyddog Prosiectau Cadw Gymru’n Daclus
Rydym yn apwyntio Swyddogion Prosiectau mewn sawl safle ar draws Cymru. Ewch i ymweld a adran Recriwtio am fwy o wybodaeth...
mwy>>
06 Mawrth 2008 Yr Enillwyr Gwyrdd yn Stadiwm y Mileniwm
Mae Derek Brockway, sef y dyn tywydd poblogaidd ar y teledu, yn gobeithio bydd yr haul yn tywynnu ar Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd ddydd Mercher, Mawrth 18fed pan fydd yn helpu i gyflwyno tlysau a gwobrau ariannol Eco-Sgolion i’r ysgolion hynny yng Nghymru sydd wedi bod yn llwyddiannus yn eu hymdrech i wella eu hamgylchedd...
mwy>>
12 Tachwedd 2007 Llwyddiant dwbl unigryw i wirfoddolwyr Castell-nedd Port Talbot
Mae’n gamp fawr ennill prif wobr amgylcheddol Cymru ond mae grŵp o wirfoddolwyr o Dde Cymru wedi ei hennill am yr eildro a hwy yw’r rhai cyntaf erioed i wneud hyn...
mwy>>
16 Mai 2007 Torri’r record y flwyddyn hon eto
Ers degawdau bu traeth Pentywyn yn Sir Gaerfyrddin yn enwog drwy’r byd fel y fan lle torrwyd recordiau byd am deithio ar y tir. Ddydd Mercher bydd y traeth yn cael ychwanegiad at ei enwogrwydd oherwydd bydd yn mynd ar y rhestr o draethau a marinas sydd wedi ennill achrediad rhyngwladol Y Faner Las am ei ansawdd...
mwy>>
05 Ebrill 2007 Traethau Cymru’n curo’r byd
Bu traeth Pentywyn yn Sir Gaerfyrddin yn enwog ers dechrau’r ganrif ddiwethaf am dorri recordiau’r byd am gyflymdra ar y tir ac arloesi ym maes hedfan. Ddydd Gwener (Ebrill 6ed), fodd bynnag, bydd y traeth yn derbyn y gydnabyddiaeth eithaf wrth iddo ymuno â’r nifer fwyaf erioed o draethau Cymru sy’n gymwys i godi baner las a melyn y Wobr Glan Môr...
mwy>>
I dderbyn gwybodaeth am yr uchod cliciwch ar yr icon uchod neu’r gweithgaredd ar y chwith.
Mae ‘Cadwch Gymru’n Daclus’ yn Gorff Gwirfoddol Cenedlaethol annibynnol a chanddo Statws Elusennol sydd yn gweithio i wella’r amgylchedd lleol.
| |
|
 |
 |
Argraffiad
Fersiwn |
 |
  |
 |
|
|
|
|